Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwelliannau i'r Gwasanaeth Maethu

Family and Home

12 Gorffennaf 2024

Family and Home
Mae Cynghorwyr wedi cymeradwyo buddsoddiad sylweddol yn y gwasanaeth maethu ym Mhowys er mwyn helpu recriwtio, cefnogi a hyfforddi rhagor o ofalwyr maeth.

Mae Cynghorwyr wedi cymeradwyo buddsoddiad sylweddol yn y gwasanaeth maethu ym Mhowys er mwyn helpu recriwtio, cefnogi a hyfforddi rhagor o ofalwyr maeth.

Mewn cyfarfod o Gyngor Sir Powys heddiw (11 Gorffennaf), cytunodd aelodau ar becyn cymorth sy'n cynnwys cynyddu'r lwfans y mae gofalwyr maeth yn ei dderbyn er mwyn rhoi gwell cefnogaeth i ofalwyr presennol ac i ddenu rhagor o bobl i'r rôl.

Ar hyn o bryd, mae gan y Cyngor brinder o ofalwyr maeth mewnol i gefnogi plant mewn gofal, ac mae angen defnyddio asiantaethau maethu annibynnol er mwyn llenwi'r bwlch. Mae hyn yn golygu cost sylweddol i bwrs y wlad, ac mae pob lleoliad yn costio dros 85 % yn fwy bob wythnos, o'i gymharu â defnyddio gofalwyr maeth mewnol.

Croesawyd y newid fel enghraifft gadarnhaol o ran sut y gellir ail-fodelu gwasanaethau'r Cyngor er mwyn gwella canlyniadau, gan sicrhau arbedion tymor hwy. Mae'r ethos yma'n ganolog i Bowys Gynaliadwy, dull o weithio sy'n cael ei arfer gan y Cyngor i fod yn arloesol a rhagweithiol er mwyn ail-feddwl sut y caiff gwasanaethau eu cyflenwi i ddelio gyda phwysau cyllidebau'r dyfodol. Mae'r Cyngor yn rhagweld prinder cyllid, yn seiliedig ar ddadansoddiad ariannol cenedlaethol, o dros £18 miliwn ar gyfer y flwyddyn gyllidebol gyfredol, gyda'r ffigur hwnnw'n cynyddu i £64 miliwn neu fwy dros y pedair blynedd nesaf.

Yn ôl y Cyng. Sandra Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: "Mae'r gwaith a wneir gan ein gofalwyr maeth yn rhyfeddol, a phleser mawr yw gallu cyhoeddi ein bod ymhlith y rhai cyntaf yng Nghymru i gynyddu ein lwfansau a'n cymorth yn y ffordd yma.

"O safbwynt y plant yn ein gofal, mae angen inni ddarparu rhianta cadarnhaol a chymorth arbenigol. Ym Mhowys, mae'r galw'n uwch na'r cyflenwad sydd ar gael ar gyfer lleoliadau o safon ar gyfer ein plant sy'n derbyn gofal, felly mae angen inni gymryd camau dewr i fynd i'r afael â hyn."

Ychwanegodd y Cyng. Davies: "Yn ôl yr amcanestyniadau, o fewn dwy flynedd, bydd y newidiadau'n arwain at gynnydd yn nifer y gofalwyr maeth mewnol, a bydd y gwariant ar asiantaethau allanol yn gostwng. Rydym yn glir na ddylai asiantaethau wneud elw mawr, ond ein bod yn gwneud rhagor yn uniongyrchol i ddenu a chadw gofalwyr maeth lleol, sy'n gofalu am ein plant agored i niwed, a'u teuluoedd."

Fel rhan o'r pecyn buddsoddi gwerth £620,385, bydd cymorth a hyfforddiant ychwanegol yn cael ei roi yn ei le i ddatblygu rhagor o ofalwyr maeth arbenigol i gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth sylweddol.

Bydd y cynlluniau hefyd yn golygu ad-drefnu staff er mwyn rhoi gwell cymorth i ofalwyr maeth a gofalwyr teulu a ffrindiau. Hefyd byddwn yn recriwtio nifer o ofalwyr myfyriol i roi cymorth neilltuol i blant a phobl ifanc Powys ac i fod ar gael ar gyfer lleoliadau brys.

I ddysgu rhagor ynghylch bod yn ofalwr maeth ym Mhowys ewch i: Maethu ym Mhowys | Maethu Cymru Powys (llyw.cymru) neu ffoniwch 0800 223 0627.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu