Toglo gwelededd dewislen symudol

Adolygiad hamdden bron â chael ei gwblhau

Image of a person swimming

12 Gorffennaf 2024

Image of a person swimming
Mae adolygiad o'r ddarpariaeth hamdden ym Mhowys bron â chael ei gwblhau, meddai'r cyngor sir.

Mae Cyngor Sir Powys wedi bod yn cynnal adolygiad o'r ddarpariaeth hamdden ar draws y sir. Fodd bynnag, nid oes unrhyw benderfyniadau wedi cael eu gwneud ynghylch sut olwg fydd ar ganolfannau hamdden yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Powys Fwy Diogel: "Rydym bron â chwblhau adolygiad trylwyr o'r ddarpariaeth hamdden ym Mhowys a bydd yr adolygiad hwnnw'n cael ei gyhoeddi cyn bo hir.

"Fodd bynnag, rwyf am roi sicrwydd i'n trigolion nad oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud am ddyfodol y ddarpariaeth hamdden ar draws y sir.

"Mae'r cyngor yn wynebu pwysau ariannol sy'n gosod bwlch sylweddol yn ein cyllid. Mae hyn yn golygu na allwn barhau i ddarparu ein gwasanaethau yn yr un modd.

"O ystyried yr heriau sy'n ein hwynebu, mae pob rhan o'r cyngor yn cael ei adolygu.

"Ein nod yw darparu cyfleusterau hamdden cynaliadwy o ansawdd da sy'n hygyrch i holl drigolion ein sir.

"Mae Powys Gynaliadwy yn anelu at gydweithio i ddylunio dyfodol, a hefyd adeiladu cadernid fel y gall datrysiadau sy'n cael eu harwain gan y gymuned helpu i ddiwallu angen lleol. Mae'n ymwneud â bod yma i'r rhai sydd angen cymorth fwyaf.

"Er ein bod yn y camau cynllunio cychwynnol, rydym yn gwneud cynnydd o ran datblygu syniadau ynghylch sut y byddwn yn darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Mae ein gwaith yn edrych ar asedau'r cyngor, y ffordd yr ydym yn rheoli gwasanaethau pwysig fel addysg, gofal cymdeithasol, hamdden a thrafnidiaeth.

"Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud, rydym yn benderfynol o weithio gyda'n cymunedau a phobl Powys i lunio darpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu