Grŵp Cynghori Economaidd yn Cydweithio i roi Hwb i Ddatblygu Rhanbarthol
15 Gorffennaf 2024
Dywedodd Steve Lesbirel, Cadeirydd GCE, "Bellach, mae gennym grŵp llawn sy'n cynnwys arweinwyr entrepreneuraidd o ddiwydiant ac rydym yn edrych ymlaen gyda'n gilydd a gydag angerdd er mwyn helpu i yrru economi Canolbarth Cymru yn ei blaen. Mae ein grŵp yn cyflawni rôl allweddol wrth gynnig her strategol ac adeiladol i gryfhau cynigion a chynnig cyngor am gyfleoedd newydd i Fwrdd Tyfu Canolbarth Cymru eu hystyried."
Mae'r Grŵp Cynghori Economaidd (GCE) yn gorff annibynnol ar gyfer Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru. Ei rôl yw cynnig llais busnes yn y Fargen Twf a hyrwyddo'r Fargen mewn ffordd gadarnhaol yng nghymuned fusnes Canolbarth Cymru. Mae'r grŵp yn cynnwys arweinwyr busnes sy'n meddu ar arbenigedd sy'n berthnasol i ranbarth Canolbarth Cymru.
Dywedodd Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys a Chynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Cyd Gadeiryddion Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru, "Rydym wrth ein bodd i gydweithio'n agos ag arweinwyr busnes rhanbarthol i gynnig llais ar gyfer eu sector a rhannu ymatebion strategol ac adeiladol ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru.
"Mae'r Fargen Twf yn cyrraedd cam cyffrous yn ei datblygiad, a fydd yn gweld rhaglenni a phrosiectau yn symud i'r cam cyflawni, felly mae angen i ni sicrhau bod cynrychiolwyr o fyd busnes yn ein helpu i gryfhau a herio'r Portffolio er mwyn cael yr effaith fwyaf ag y bo modd ar Economi Canolbarth Cymru."
Cafodd y grŵp y cyfle i glywed mwy am brosiect Llynnoedd Cwm Elan gan ddatblygwyr y prosiect, Dŵr Cymru, ac i fynd am dros o gwmpas y safle. Hwn yw'r prosiect cyntaf yng Nghanolbarth Cymru sy'n symud ymlaen i gam olaf datblygu'r achos busnes er mwyn datgloi cyllid Bargen Twf Canolbarth Cymru.
Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn rhaglen cyllid cyfalaf sy'n buddsoddi mewn prosiectau seilwaith mawr i gynorthwyo twf economaidd y rhanbarth.
Darllenwch am gefndiroedd a phrofiadau busnes y grŵp ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru: www.tyfucanolbarth.cymru/GCE