Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaeth sgrinio a hyrwyddo iechyd allgymorth i'w gynnig i'r gymuned ffermio

Image of a man and a woman on a farmyard

17 Gorffennaf 2024

Image of a man and a woman on a farmyard
Bydd cymuned ffermio Powys yn cael cynnig sesiynau sgrinio iechyd am ddim fel rhan o wasanaeth allgymorth hygyrch a fydd yn ymweld â'r Sioe Frenhinol eleni.

Datblygwyd Ffit i Ffermio fel gwasanaeth allgymorth i helpu i ddiwallu anghenion iechyd a lles penodol y gymuned ffermio ym Mhowys.  

Mae Cyngor Sir Powys (CSP), Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP), Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO), a Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) wedi cydweithio mewn partneriaeth i ddatblygu'r prosiect Ffit i Ffermio.

Bydd y gwasanaeth allgymorth yn gweld gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, staff y cyngor ac aelodau'r sector gwirfoddol yn ymweld â marchnadoedd da byw yn Aberhonddu, Llanfair-ym-Muallt a'r Trallwng bob mis rhwng Awst a Rhagfyr.  

Yn ystod Sioe Frenhinol Cymru, bydd y tîm ar Falconi Neuadd Arddangos 1, a byddant hefyd yn mynychu Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, ac Arwerthiant Hyrddod ac NSA Cymru.

Bydd y gwasanaeth yn darparu:

  • Archwiliad pwysedd gwaed
  • Asesiadau ffordd o fyw
  • Cyngor ar roi'r gorau i ysmygu
  • Cyfeirio ac ymwybyddiaeth o les meddyliol a chymorth
  • Lle diogel a chyfrinachol ar gyfer trafod cyfleoedd hybu iechyd.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Rwy'n falch iawn ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â'r bwrdd iechyd a PAVO i gynnig y prosiect allgymorth pwysig hwn.  

"Rydyn ni'n gwybod bod y gymuned ffermio yn tueddu i weithio oriau hir ac anghymdeithasol sy'n golygu eu bod yn aml yn cael trafferth cael mynediad at wasanaethau iechyd a lles traddodiadol.  

"Drwy ymweld â marchnadoedd da byw, rydym yn dod â'r fenter iechyd bwysig hon yn uniongyrchol i ffermwyr. Bydd y prosiect yn helpu i adeiladu cymunedau ffermio iachach a chefnogi busnesau fferm cryfach."

Dywedodd Mererid Bowley, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd: "Rwy'n falch iawn bod y prosiect hybu iechyd hwn yn datblygu mewn partneriaeth i fanteisio ar hyrwyddo a sgrinio iechyd i gefnogi'r gymuned ffermio.  Rydym yn gwybod y gall y diwydiant fod yn heriol iawn, a bydd hwn yn gyfle i gael trafodaeth i hybu iechyd a lles, cynnig clust i wrando, trafod lles a chyfeirio at gymorth cymunedol, ac i glywed gan y gymuned sut y gallwn ddatblygu'r prosiect hwn i gefnogi eu hanghenion."

Dywedodd Clair Swales, Prif Swyddog Gweithredol PAVO: "Rydym yn gyffrous i fod yn gweithio ar ran a chyda sefydliadau'r trydydd sector sy'n cefnogi aelodau o'r sector amaethyddol. Gyda'n partneriaid yn y cyngor lleol, y bwrdd iechyd a CAFC mae gennym weledigaeth ar y cyd i fynd â'r cymorth hwn i'r sector.  

"Mae'r rhwydwaith Cefnogaeth Lles Amaeth Powys, a hwylusir gan PAVO, wedi canolbwyntio ar anghenion iechyd holistaidd y sector a'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r anghenion hyn trwy gydweithio ac ar y cyd a sefydliadau partner.

"Bydd elfen trydydd sector y rhaglen allgymorth hon yn cynnig sgwrs gefnogol ac yn cyfeirio at gymorth cymunedol leol neu'r trydydd sector sy'n mynd i'r afael â materion holistaidd er enghraifft ynysu cymdeithasol, unigrwydd, lles meddyliol, gweithgaredd corfforol, bregusrwydd, tai, yr ochr ariannol a llawer mwy."  

Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Aled Rhys Jones: "Mae'r Gymdeithas wrth ei bodd y bydd y 'Prosiect Ffit i Ffermio' yn lansio yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.

"Wrth i ni fyw bywydau sy'n gynyddol brysur, gall fod yn hawdd anghofio rhoi eich hun a'ch iechyd yn gyntaf.  

"Mae hon yn fenter wych, ac rydym yn hynod ddiolchgar i'r holl sefydliadau partner am wneud hyn yn bosibl. Rydym yn falch o gefnogi'r prosiect hwn ac yn annog cymaint o bobl â phosibl i ymweld yn ystod yr wythnos."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu