Toglo gwelededd dewislen symudol

Powys Gynaliadwy

Graffig Powys Gynaliadwy

Graffig Powys Gynaliadwy
18 Gorffennaf 2024

Bydd y ffordd y cyflenwir gwasanaethau Cyngor Sir Powys yn newid yn ddramatig wrth i'r Cyngor drawsnewid er mwyn diwallu pwysau cyllidebau'r dyfodol.

Dywed Aelod y Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol, y Cynghorydd David Thomas, bod angen agwedd arloesol tuag at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn byw yn unol â'i  fodd, wrth wynebu pwysau ariannu.

Mae'r Cyngor yn rhagweld prinder cyllid, yn seiliedig ar ddadansoddiad cyllidol cenedlaethol, o dros £18 miliwn ar gyfer y flwyddyn gyllidebol gyfredol, gyda'r ffigur hwnnw'n cynyddu i £64 miliwn neu fwy dros y tri blynedd nesaf, sy'n golygu bod angen newid radical mewn perthynas â chyflenwi gwasanaethau.

"Mae cyflenwi gwasanaethau llywodraeth leol gwerthfawr wrth galon popeth a wnawn.  Wrth i amseroedd ac amodau economaidd newid, mae angen inni fod yn arloesol ac yn flaengar ein hagwedd er mwyn cynnal gwasanaethau cyhoeddus o safon a gwireddu Cyngor cryfach, tecach a gwyrddach ar gyfer y dyfodol.

"Mae'r pwysau ariannol sy'n wynebu Powys a phob awdurdod arall yng Nghymru'n golygu bwlch sylweddol yn y cyllid sydd ar gael inni. Yn syml iawn, mae hyn yn golygu na fedrwn fforddio parhau i gyflenwi ein gwasanaethau yn yr un ffordd.

"Yn y gorffennol, mae'r Cyngor wedi ceisio gwneud gwasanaethau'n fwy effeithlon.  Nid yw hyn yn gynaliadwy ar sail hirdymor, a bellach mae gofyn inni fod yn fwy radical a newid ein ffordd o feddwl. Mae'n rhaid inni fuddsoddi mewn meysydd craidd a darparu gwasanaethau o safon sy'n costio llai, ac sydd oddi mewn y gyllideb sydd ar gael inni.

"Mae Powys Gynaliadwy'n golygu cydweithio er mwyn dylunio dyfodol, a hefyd meithrin gwydnwch er mwyn i atebion sy'n cael eu harwain gan y gymuned helpu i ddiwallu anghenion lleol.  Mater o fod ar gael i'r sawl sydd â'r anghenion cymorth mwyaf yw.

"Er ein bod ar ddechrau'r broses cynllunio, rydym yn gwneud cynnydd o safbwynt datblygu syniadau ynghylch sut y gallwn ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol. Mae ein gwaith yn golygu ystyried asedau'r Cyngor, y ffordd y byddwn yn rheoli gwasanaethau pwysig megis addysg, gofal cymdeithasol, hamdden a thrafnidiaeth.

"Ni wnaethpwyd unrhyw benderfyniadau eto; rydym yn benderfynol o weithio gyda'n cymunedau a thrigolion Powys wrth siapio cyflenwi gwasanaethau'r dyfodol. Rydym ar daith gyda gweledigaeth o fagu dyfodol cryfach. Dyfodol ar gyfer ein pobl ifanc, lle maent yn gallu tyfu, lle gall pobl wneud busnes, economi bywiog, cwricwlwm ehangach yn ein hysgolion.

"Mae un peth yn amlwg iawn, sef maint y newid sy'n ein hwynebu, sy'n golygu y bydd y Cyngor yn y dyfodol yn edrych yn wahanol iawn i Gyngor y gorffennol," ychwanegodd.

Dydd Mawrth (16 Gorffennaf) cytunodd cabinet y Cyngor ar egwyddorion rhaglen Powys Gynaliadwy ynghyd â'r meysydd cynllunio a'r egwyddorion sy'n seiliedig ar leoedd a fydd yn cael eu defnyddio i gynllunio gwasanaethau yn y dyfodol. Am fwy o wybodaeth ewch i:  https://powys.moderngov.co.uk/documents/s87952/2024 07 Cabinet Report - Sustainable Powys.pdf

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu