Toglo gwelededd dewislen symudol

Arweinydd Cyngor Sir Powys yn talu teyrnged i'r Cynghorydd Michael Williams

Image of Cllr Michael Williams

29 Gorffennaf 2024

Image of Cllr Michael Williams
Mae Arweinydd Cyngor Sir Powys wedi talu teyrnged heddiw i'r Cynghorydd Michael Williams, a fu farw'r wythnos diwethaf.

Y Cyng. Williams oedd aelod ward Machynlleth ac roedd yn un o gynghorwyr gyda'r gwasanaeth hiraf drwy'r sir. Roedd o wedi cynrychioli Machynlleth fel cynghorydd sir ers dechau'r 1980au.

Dywed y Cyng. James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Ar ran holl gynghorwyr Powys, hoffwn fynegi ein tristwch wrth glywed am farwolaeth y Cyng. Michael Williams.

"Cafodd y Cyng. Michael ei ethol adeg yr etholiadau cyntaf i Awdurdod Unedol cysgodol newydd Powys ym 1995 cyn iddo fynd yn 'fyw' ym 1996, a dyna'r tro cyntaf imi, fel cynghorydd newydd ei ethol, anaeddfed, gwrdd ag ef.

"Fodd bynnag, roedd y Cyng. Michael wedi gwasanaethu fel un o Gynghorwyr Sir Powys ers dros ddegawd cyn hynny - mae o wedi cynrychioli ei gymuned leol ym Machynlleth a thrigolion Powys ers dros 40 mlynedd.

"Nid wyf yn gwybod faint o etholiadau a wynebodd, ond buaswn yn amau y byddai unrhyw her yn ofer, oherwydd roedd wedi ennyn cymaint o barch a hoffter ymhlith trigolion cymuned Machynlleth.

"Nid oedd yn ofni dweud ei ddweud, a hynny yn siambr y cyngor; yn sicr nid oedd angen meicroffon i fynegi ei farn. Ond yn gefn i'w siarad plaen, roedd cymeriad sensitif a charedig.

"Yn anad dim, roedd y Cyng. Michael yn unigolyn doeth a chraff, ac roedd yn barod i rannu ei ddoethineb ar unrhyw adeg.

"Bydd pob un ohonom yn gweld eisiau ei gyfraniadau i'n trafodaethau a gwaith Cyngor Sir Powys yn fawr iawn, ond wrth gwrs, bydd trigolion Machynlleth yn gweld ei eisiau'n fwy na neb.

"Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf i'w deulu, ei ffrindiau a'i gydweithwyr. Boed iddo orffwys mewn hedd."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu