Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Gwedd newydd i ganol y dref yn Nhref-y-Clawdd

Knighton town centre

7 Awst 2024

Knighton town centre
Bydd canol tref Tref-y-clawdd yn gweld gwelliannau, a ddylai ei wneud yn lle mwy deniadol i ymweld ag ef, ar ôl i gais am gyllid a gyflwynwyd i Gyngor Sir Powys fod yn llwyddiannus.

Bydd Cyngor Tref Tref-y-clawdd yn derbyn hyd at £66,759.20 tuag at y gost o adnewyddu 15 o ffryntiau busnes ar y Stryd Fawr, Broad Street, Stryd y Gorllewin, Stryd y Farchnad, Stryd y Bont a Wylcwm Place.

Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu ar ffurf Grant Creu Lleoedd Gan Lywodraeth Cymru, drwy ei rhaglen Trawsnewid Trefi, am hyd at 70% o gyfanswm y gost.

Mae'r cyngor tref yn gweithio fel hwylusydd i'r cynllun, mewn partneriaeth â'r cyngor sir.

"Rydym ni i gyd am i ganol trefi Powys ffynnu a chael digon o ymwelwyr," meddai'r Cyngh David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Fwy Llewyrchus. "Rydym yn gobeithio y bydd y gwelliannau hyn yn gwneud Tref-y-clawdd yn lle mwy deniadol i ymweld ag ef, siopa a masnachu ynddo."

Cefnogir rhaglen Trawsnewid Trefi yn y Canolbarth gan Dimau Datblygu Economaidd ac Adfywio Cyngor Sir Powys a Cheredigion.

Mae rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar gefnogi bywiogrwydd canol ein trefi, datblygu seilwaith gwyrdd, galluogi creu swyddi, a gwella cyfleusterau cymunedol a mynediad at wasanaethau. Mae dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd buddiol yn elfen ganolog o'r rhaglen, ac mae'r Canolbarth wedi cael £7m ers 2022 i gyflawni prosiectau Adfywio canol trefi.

Mae'r Grant Creu Lleoedd wedi'i gynllunio i fod yn hyblyg, ac wedi'i ddarparu drwy'r awdurdod lleol, i gefnogi ymyriadau ar raddfa lai (grant o hyd at £250,000) sy'n helpu i wella canol trefi.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu