Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

System Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy - Dweud eich dweud

Icon of a survey and pencil with Ymgynghoriad ar Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy written in green

12 Awst 2024

Icon of a survey and pencil with Ymgynghoriad ar Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy written in green
Gofynnir i bobl Powys fynegi eu barn am y posibilrwydd o gyflwyno system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau Cyngor Sir lleol, dywedodd y Cyngor Sir.

Yn y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru, caiff system y cyntaf i'r felin ei defnyddio i ethol cynghorwyr sir lleol sy'n gofalu am faterion penodol yn eich ardal leol, a'r ymgeisydd sydd â'r rhan fwyaf o bleidleisiau sy'n cael ei ethol.

Yma, ym Mhowys, mae'r cyngor sir yn ystyried y posibilrwydd o symud i system Pleidlais Sengl Trosglwyddadwy a newid y ffordd yr ydych chi'n pleidleisio mewn etholiadau Cyngor Sir lleol.

Mae system Pleidlais Sengl Trosglwyddadwy yn ffurf ar gynrychiolaeth gyfrannol a gynlluniwyd i alluogi pleidleiswyr i gael rhagor o ddewis nag un ymgeisydd yn unig. Yn hytrach nag un person yn cynrychioli pawb mewn ardal fach, bydd ardaloedd mwy o faint yn dethol tîm bach o gynrychiolwyr. Bydd y cynrychiolwyr hyn yn adlewyrchu amrywiaeth o safbwyntiau yn yr ardal.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Agored a Thryloyw: "Er mwyn i'r cyngor ystyried y newid i'n system bleidleisio, cytunwyd cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater a bydd y canlyniadau yn ein helpu ni fel cyngor i benderfynu a ydym am gyflwyno system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ai peidio yn ein hetholiadau lleol yn y dyfodol.

"Rwy'n annog pawb i ddweud ei ddweud, does dim rhaid eich bod chi wedi cofrestru i bleidleisio i roi eich adborth.  

"Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth o'r ymgynghoriad hwn i benderfynu a fyddwn yn mabwysiadau system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ai peidio o 2027 ymlaen, yn ôl y dyddiad cau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru sef 15 Tachwedd 2024".

Am ragor o fanylion ac i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i:https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/ymgynghoriad-ar-bsd

Mae copïau papur o'r ymgynghoriad ar gael i'w lawrlwytho o'r ddolen uchod a gallwch eu casglu o'ch llyfrgell leol.Dychwelwch ffurflenni wedi eu cwblhau i staff y llyfrgell, neu sganiwch ac e-bostio i haveyoursay@powys.gov.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw dydd Llun 30 Medi 2024.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu