Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Digwyddiad galw heibio wedi'i drefnu i drafod datblygiad tai arfaethedig yn yr Ystog

Image of a model house and construction plans

14 Awst 2024

Image of a model house and construction plans
Mae trigolion yr Ystog yn cael eu hannog i fynychu digwyddiad ymgysylltu ac i roi eu barn ar ddatblygiad tai newydd y bwriedir ei adeiladu yn y pentref gan Gyngor Sir Powys.

Mae Tîm Datblygu Tai Cyngor Sir Powys am adeiladu datblygiad tai cymysg o 38 o gartrefi cyngor a fydd wedi'u hinswleiddio'n dda ac yn eco-gyfeillgar ar dir ger Fferm Firs ac i'r dwyrain o ystad dai Firs Court Avenue.

Mae'r tîm wedi trefnu digwyddiad galw heibio yn Neuadd Bentref yr Ystog ddydd Iau 22 Awst rhwng 5 a 7:30pm fel bod y gymuned leol yn gallu gweld y cynlluniau a rhoi eu barn ar y datblygiad tai yn y dyfodol.

Fel rhan o'r datblygiad arfaethedig bydd pedwar byngalo un ystafell wely, pedwar byngalo dwy ystafell wely, 10 tŷ un ystafell wely, 10 tŷ dwy ystafell wely, wyth tŷ tair ystafell wely a dau dŷ pedair ystafell wely.

Os rhoddir sêl bendith i'r datblygiad, bydd y cartrefi newydd yn eiddo i'r cyngor ac yn cael eu rheoli gan y cyngor.  Bydd y tai'n cael eu dyrannu i denantiaid drwy 'Cartrefi ym Mhowys' - y siop un stop ar gyfer yr holl dai cymdeithasol yn y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Un o flaenoriaethau'r cyngor yw mynd i'r afael â'r argyfwng tai yn y sir a gellir cyflawni hyn drwy adeiladu tai cyngor o ansawdd uchel.

"Yr unig ffordd y gallwn gyflawni hyn yw drwy gynyddu nifer y tai cyngor yn ein cymunedau ac mae adeiladu cartrefi cyngor o ansawdd uchel yn ein helpu i wneud hynny.

"Bydd ein Tîm Datblygu Tai yn gweithio mewn cymunedau ledled Powys i ddod o hyd i dir addas ar gyfer tai ac adnabod anghenion tai.

"Rydym am gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl a bydd y digwyddiad galw heibio hwn yn rhoi'r cyfle i breswylwyr fynegi eu barn.

"Byddem yn annog holl aelodau'r gymuned i ddod draw i'r digwyddiad hwn ond yn enwedig pobl iau, gan ein bod yn cydnabod eu bod yn cael anhawster dod o hyd i lety fforddiadwy addas.

"Bydd y datblygiad arfaethedig hwn yn ein helpu i adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i'r gymuned hon."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu