Amdani Powys yn anelu i'n helpu i fod yn fwy egnïol
16 Awst 2024
Mae gwefan Amdani Powys wedi' chynllunio i'w gwneud hi'n haws i bobl ddod o hyd i gyfleoedd chwaraeon a gweithgareddau ar draws y sir. Mae'r wefan yn cynnig digon o ysbrydoliaeth, i oedolion o bob oed a gallu, o bêl-rwyd cerdded i gaiacio i feicio a phêl-fasged cadair olwyn.
Cafodd ei greu mewn ymateb i arolwg ar draws y sir a gynhaliwyd gan Chwaraeon Powys a ddatgelodd fod trigolion yn dweud ei bod yn anodd dod o hyd i weithgareddau corfforol amrywiol ar draws y sir.
Eglura Elin Wozencraft o Chwaraeon Powys: "Roedd yn amlwg o adborth yr arolwg gan breswylwyr fod angen cael un wefan i ddod o hyd a rhannu gweithgareddau. Mae Amdani Powys yn cynnig cyfle i bawb - preswylwyr ac ymwelwyr - cyfle i ddod o hyd i weithgareddau difyr sy'n addas iddyn nhw.
"Mae'r wefan hefyd wedi'i chynllunio fel y gall gweithwyr iechyd proffesiynol gefnogi pobl i hybu eu hiechyd a'u lles trwy eu cyfeirio at weithgareddau a sesiynau."
Mae darparwyr gweithgareddau ledled Powys yn manteisio ar y cyfle marchnata am ddim i restru grwpiau a chlybiau, sesiynau a lleoliadau. Mae Cyngor Sir Powys yn annog pob darparwr ar draws y sir i ymweld â'r wefan i restru eu cyfleoedd. Yn y dyfodol, bydd llwybrau cerdded a beicio lleol hefyd yn cael eu hychwanegu at y wefan.
Mae Amdani Powys yn cynnwys dull o ddod o hyd i weithgareddau fel y gall pobl chwilio'r wefan am gyfleoedd yn eu hardal ac yn ôl y math o weithgareddau.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Mae gennym gymaint o weithgareddau gwych, cynhwysol sy'n digwydd o wythnos i wythnos ar draws Powys. Mae yna rywbeth i bawb mewn gwirionedd ac rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu tynnu sylw atynt fel y gall mwy o bobl ledled ein sir fwynhau'r manteision o symud a bod yn egnïol."
Mae'r fenter hefyd wedi cael cefnogaeth Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Mererid Bowley: "Rydym yn gwybod ei fod yn bwysig iawn i'n hiechyd i fod yn egnïol yn gorfforol. Nid yn unig y gall helpu i atal cyflyrau iechyd tymor hir, ond gall ein helpu i'w rheoli hefyd. Yn ogystal, mae'n rhoi ymdeimlad o les cadarnhaol i ni. Drwy ddarparu mynediad hawdd i'r cyfleoedd sy'n aml ar garreg ein drws, rwy'n gobeithio y bydd pobl ledled y sir yn edrych ar wefan Amdani Powys ac yn rhoi cynnig ar weithgaredd."
Mae'r wefan hefyd yn cynnwys cyfres o astudiaethau achos o unigolion sydd wedi elwa o ddod o hyd i gamp neu weithgaredd yn agos atyn nhw ym Mhowys.