Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun i wneud adeiladau cymunedol ym Mhowys yn fwy cynaliadwy yn cael £419k ychwanegol

A person installing solar panels on a roof

19 Awst 2024

A person installing solar panels on a roof
Mae prosiect sy'n anelu at 'ailadeiladu sylfeini cymunedol ym Mhowys' wedi derbyn £419,400 yn ychwanegol, oherwydd galw uchel.

Mae Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys (PAVO) wedi derbyn yr arian i gynnig grantiau i gyfleusterau sy'n eiddo i'r gymuned ar gyfer:

  • Atgyweirio a chynnal a chadw
  • Cynhyrchu ynni adnewyddadwy
  • Gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan

Gwnaed y dyfarniad i PAVO gan Bartneriaeth Leol Cronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG) Powys, ar ôl iddo glywed bod gormod o geisiadau am y cynllun grant a bod galw mawr amdano. Mae'n derbyn ei gyllid gan Lywodraeth y DU ac yn cael ei reoli gan Wasanaeth Economi a Hinsawdd Cyngor Sir Powys.

Mae'r £419,400 yn ychwanegol at £812,999 a ddyrannwyd i'r un cynllun grant yn gynharach yn y flwyddyn, gan wneud cyfanswm o £1,232,399.

"Y nod yw darparu cymorth i adeiladau cymunedol, yn cynnwys canolfannau cymunedol, neuaddau pentref, toiledau a chyfleusterau chwaraeon sy'n eiddo i'r gymuned i barhau i adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn ystod cam un y prosiect hwn," meddai Clair Swales, Prif Swyddog Gweithredol PAVO.

"Mae'r bobl a'r sefydliadau sy'n gofalu am ein hadeiladau cymunedol ym Mhowys wedi nodi'r materion presennol sy'n effeithio arnynt fel: costau byw, biliau cyfleustodau, cynnal a chadw ac effeithlonrwydd ynni. Bydd y prosiect hwn yn eu cefnogi i ddatblygu eu gwytnwch, gyda gwell sgiliau, gwybodaeth a hyder fel y gallant fod yn gynaliadwy yn y tymor hir."

Ychwanegodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Fwy Llewyrchus a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Lleol CFfG Powys: "Ar ôl cael gwybod bod llawer o'n cymunedau yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar gyllid i wneud gwelliannau i'w hadeiladau, rydym yn falch o fod wedi gallu darparu cymorth ariannol ychwanegol i gynorthwyo gyda'r gwaith gwerthfawr hwn. Fel cyngor, rydym am gefnogi ein cymunedau i fod yn fwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol fel rhan o'n dull gweithio, Gweithredu Powys Gynaliadwy."

Mae'r Grant Adeiladu Sylfeini Cymunedol ym Mhowys wedi'i ddyrannu'n llawn gan PAVO ac mae bellach wedi cau. Os oes gennych gwestiynau amdano, neu unrhyw gynlluniau grant eraill gan PAVO, e-bostiwch: grants@pavo.org.uk, neu ffoniwch 01597 822191 neu 01686 626220.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu