Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Casglu barn am fesurau diogelwch wythnos Sioe Frenhinol Cymru

BWESG 2024

21 Awst 2024

BWESG 2024
 Mae arolwg am y mesurau diogelwch a oedd ar waith o amgylch Llanfair-ym-Muallt yn ystod Sioe Frenhinol Cymru eleni, wedi cael ei lansio.

Mae trigolion Llanfair-ym-Muallt ac ymwelwyr â'r sioe y mis diwethaf yn cael eu hannog i gymryd rhan a rhoi eu barn

Gweithredwyd y mesurau diogelwch gan Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt, a ffurfiwyd yn 2017 ac sy'n cael ei arwain gan Gyngor Sir Powys.

Roedd y mesurau a oedd ar waith eleni yn cynnwys:

  • Llwybr cerdded diogel a elwir y Llwybr Gwyrdd
  • Canolfan feddygol a llesiant, a elwir yn Bwynt Cymorth, a weithredir gan Ambiwlans Sant Ioan Cymru o Neuadd y Strand
  • Pwynt Cymorth 'Dros Dro' sy'n darparu canllawiau a chymorth lles, a weithredir gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Powys o'r Groe
  • Cymorth lles a ddarperir gan fugeiliaid stryd a gweithwyr ieuenctid yn y nos.
  • Blychau amnest cyffuriau wedi'u gosod wrth fynd i leoliadau yn Llanfair-ym-Muallt a'r ardal gyfagos
  • Ymgyrch sy'n annog ymwelwyr i yfed ac ymddwyn yn gyfrifol.

Drwy gydol wythnos Sioe Frenhinol Cymru 2024, cafodd cyfanswm o 129 o gleifion eu trin gan Ambiwlans Sant Ioan Cymru yn y Pwynt Cymorth, gydag wyth unigolyn yn cael eu cludo i gyfleuster gofal eilaidd i gael cymorth pellach. Ochr yn ochr â hyn, cofnodwyd 159 o ddigwyddiadau gan y bugeiliaid stryd, yn ogystal â 705 o unigolion a gefnogwyd gan Wasanaeth Ieuenctid y cyngor. Dros yr wythnos, gwirfoddolodd tîm Ambiwlans Sant Ioan Cymru dros 2,000 awr o'u hamser, gyda bugeiliaid y stryd yn gwirfoddoli dros 350 awr.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Mae Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt wedi defnyddio eu profiad a'u gwybodaeth ac wedi gweithredu mesurau i gadw ymwelwyr a thrigolion yn ddiogel drwy gydol wythnos y Sioe Frenhinol.

"Bydd yr adborth gan breswylwyr ac ymwelwyr yn hanfodol wrth i'r grŵp adolygu'r mesurau a oes modd gwneud unrhyw beth yn wahanol ar gyfer sioeau yn y dyfodol.

"Yn ogystal, hoffwn ddiolch a chydnabod gwaith y rhai ar lawr gwlad yn ystod yr wythnos, ond hefyd ein timau ehangach, nad ydynt yn cael eu gweld yn aml, ond na fyddai'r gweithgareddau drwy gydol yr wythnos yn gallu digwydd hebddynt."

I gymryd rhan yn yr arolwg, ewch i http://www.dweudeichdweudpowys.cymru/mesurau-diogelwch-wythnos-sioe-frenhinol-cymru-2024 a fydd yn cau ddydd Gwener 13 Medi 2024.

Gall trigolion Llanfair-ym-Muallt nad ydynt yn gallu cwblhau'r arolwg gartref ymweld â llyfrgell y dref yn Antur Gwy lle bydd staff y llyfrgell yn eu helpu gyda'r arolwg ar-lein.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu