Toglo gwelededd dewislen symudol

£37k o gyfleusterau 'gwyrdd' newydd bellach yn cael eu defnyddio yn hostel ieuenctid Powys

One of the paths from the hostel to alternative accommodation sites

23 Awst 2024

One of the paths from the hostel to alternative accommodation sites
Mae gwaith adnewyddu gwerth £37,000 ar hostel YHA ym Mannau Brycheiniog, ger Aberhonddu, bellach yn cael ei fwynhau gan ymwelwyr, diolch i gyllid grant a sicrhawyd gan Gyngor Sir Powys.

Mae'r gwaith wedi cynnwys gosod dau bwynt gwefru cerbydau trydan newydd, storfa feiciau ddiogel gyda gwefrwyr e-feiciau ac offer cynnal a chadw, ac adleoli ffynnon ddŵr. Amcan pob mesur yw annog opsiynau teithio a defnydd mwy cynaliadwy.

Gwnaed gwelliannau hefyd i gyfleusterau parcio hygyrch, i lwybrau sy'n cysylltu'r maes parcio â'r hostel, ac o'r hostel i safleoedd llety amgen, felly gall ystod ehangach o bobl ei ddefnyddio.

Gwnaed y gwaith yn Libanus yn bosibl diolch i'r cyllid grant o 80% a sicrhawyd gan Wasanaeth Economi a Hinsawdd y cyngor sir gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o'i gynllun Pethau Pwysig.

"Mae twristiaeth yn bwysig iawn i economi Powys. Rydym ni, felly, eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu'r asedau sydd gennym a gwneud ein sir hardd yn lle mwy deniadol i ymweld ag ef," meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Fwy Llewyrchus. "Rwy'n gobeithio y bydd llawer mwy o bobl nawr yn cael eu hannog i aros yn hostel YHA Bannau Brycheiniog ac archwilio'r cefn gwlad o'i amgylch."

Rheolwyd y gwelliannau gan YHA (Cymru a Lloegr), a oedd hefyd yn darparu gweddill y cyllid.

Meddai Jane Barber, Rheolwr Hostel YHA Bannau Brycheiniog: "Rydym yn hynod ddiolchgar am gyllid Pethau Pwysig yn YHA Bannau Brycheiniog. Mae wedi gwneud gwahaniaeth uniongyrchol i'r hostel ieuenctid, a fydd nid yn unig yn cael effaith gadarnhaol ar y miloedd o westeion sy'n aros gyda ni bob blwyddyn ond hefyd ar gynaliadwyedd ariannol tymor hirach yr hostel, gan y bydd yn ein galluogi i ddenu mwy o westeion i aros gyda ni."

Mae cynllun Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru wedi gweld £5 miliwn yn cael ei ddyrannu i welliannau isadeiledd twristiaeth ar raddfa fach ledled Cymru ar gyfer 2023-25.

Meddai Jack Sargeant, Gweinidog Twristiaeth Llywodraeth Cymru: "Bydd y gwelliannau amhrisiadwy hyn yn yr YHA ym Bannau Brycheiniog, diolch i'n menter 'Pethau Pwysig', yn gwella'r profiad i ymwelwyr mewn ffordd fwy cynaliadwy a hygyrch.

"Mae prosiectau fel hyn yn effeithio'n sylweddol ac yn gadarnhaol ar ansawdd ymweliad person. Er na sylwir ar gyfleusterau yn aml, maent yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio profiadau cofiadwy. Mae'n wych gweld YHA yn hyrwyddo cynaliadwyedd, nid yn unig drostynt eu hunain ond hefyd er budd eu hymwelwyr."

Llwyddodd Cyngor Sir Powys i sicrhau £300,000 o hyn, sy'n cael ei wario ar 10 prosiect sy'n cynnwys gwell mynediad, meysydd parcio, llwybrau, mannau gwefru cerbydau trydan, arwyddion a dehongli, ac uwchraddio toiledau mewn lleoliadau amrywiol.

YHA Bannau Brycheiniog: https://www.yha.org.uk/hostel/yha-brecon-beacons

LLUN: Un o'r llwybrau o'r hostel i safleoedd llety amgen. Llun: YHA (Cymru a Lloegr)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu