Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Gweddnewid canol tref Llanandras

Presteigne town centre

28 Awst 2024

Presteigne town centre
Mae canol tref Llanandras i weld gwelliannau, a fydd yn gwella ei golwg, ar ôl i gais am gyllid a gyflwynwyd i Gyngor Sir Powys fod yn llwyddiannus.

Bydd Cyngor Tref Llanandras a Norton yn derbyn hyd at £50,710.80 tuag at y gost o adnewyddu 10 ffrynt busnes ar y Stryd Fawr, Stryd Lydan, Stryd Henffordd a Green End.

Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu ar ffurf Grant Creu Lleoedd Gan Lywodraeth Cymru, drwy ei raglen Trawsnewid Trefi, yn yr achos hwn, am hyd at 70% o gyfanswm y gost.

Mae'r cyngor tref yn gweithio fel hwylusydd i'r cynllun, mewn partneriaeth â'r cyngor sir.

"Rydym ni i gyd eisiau i ganol trefi Powys ffynnu a chael digon o ymwelwyr," meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Fwy Llewyrchus. "Bydd y gwelliannau hyn yn gwella ymddangosiad Stryd Fawr Llanandras, ac rydym yn gobeithio y bydd hynny'n arwain at fwy o fasnach ac ymdeimlad ychwanegol o falchder.

"Mae'r gwaith hwn wedi bod yn bosibl diolch i'n pum swyddog cyswllt canol tref sy'n cefnogi datblygiad economaidd ledled y sir mewn 18 o drefi."

Ychwanegodd Maer Llanandras a Norton, y Cynghorydd Trevor Owens: "Roedd y cyngor tref yn gwbl gefnogol o'r cynllun i helpu masnachwyr lleol a pherchnogion busnes i dderbyn cyllid tuag at gynnal a chadw eu ffryntiau siop.

"Mae'r cyfan yn rhan o wneud y Stryd Fawr yn fwy deniadol i bobl leol a'r rhai sy'n ymweld â Llanandras - os fydd tueddiad i ragor o bobl ymweld, yna gallai hynny ond fod o fudd i'r rhai sy'n rhedeg busnesau yn y dref.

"Da iawn bawb a oedd yn gysylltiedig â sicrhau'r grant hwn, yn enwedig y busnesau am brynu i mewn i'r cynllun a Chlerc ein Tref, Tracey Price sydd wedi gweithio'n ddiflino ar hyn ar ein rhan."

Gwnaeth Cyngor Tref Llanandras a Norton gais am y Grant Creu Lleoedd ar ran y 10 busnes. Ni fydd yn cadw dim o'r arian, dim ond ei gadw nes bod anfonebau wedi'u derbyn am y gwaith.

Cefnogir rhaglen Trawsnewid Trefi yn y Canolbarth gan Dimau Datblygu Economaidd ac Adfywio Cyngor Sir Powys a Cheredigion.

Mae rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar gefnogi bywiogrwydd canol ein trefi, datblygu seilwaith gwyrdd, galluogi creu swyddi, a gwella cyfleusterau cymunedol a mynediad at wasanaethau. Mae dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd buddiol yn elfen ganolog o'r rhaglen, ac mae'r Canolbarth wedi cael £7m ers 2022 i gyflawni prosiectau Adfywio canol trefi.

Mae'r Grant Creu Lleoedd wedi'i gynllunio i fod yn hyblyg, ac yn cael ei ddarparu drwy'r awdurdod lleol, i gefnogi ymyriadau ar raddfa lai (grant o hyd at £250,000) sy'n helpu i wella canol trefi.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu