Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiadau Galw Heibio ar Gynllun Datblygu Lleol Newydd Powys (2022-2037)

Image of housing set in countryside

29 Awst 2024

Image of housing set in countryside
Mae preswylwyr ym Mhowys yn cael eu gwahodd i rannu eu barn ar Strategaeth a Ffefrir y Cyngor Sir ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Newydd Powys a fydd yn cwmpasu Powys gyfan y tu allan i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Bydd y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn manylu ar gynigion a pholisïau defnydd tir y Cyngor ar gyfer datblygu tir yn y dyfodol yn ei ardal.  Mae'n cwmpasu'r cyfnod o 15 mlynedd rhwng 2022 i 2037 ac fe'i defnyddir i lywio penderfyniadau ar geisiadau cynllunio ar ôl iddynt gael eu mabwysiadu.

Fel rhan o'r ymgynghoriad, gwahoddir aelodau o'r cyhoedd a phobl sydd â diddordeb i fynychu un o 'r digwyddiadau galw heibio canlynol lle bydd Swyddogion wrth law i ateb ymholiadau ynghylch yr ymgynghoriad:

  • Dydd Mawrth 10 Medi, 2pm i 8pm: Llyfrgell y Drenewydd, Lôn y Parc, Y Drenewydd
  • Dydd Iau 12 Medi, 2pm i 8pm: Neuadd y Strand, Llanfair-ym-Muallt

Gwahoddir sylwadau a safbwyntiau ar y Strategaeth a Ffefrir sy'n nodi'r materion allweddol sy'n effeithio ar ardal y cynllun ac yn cynnig sut y gellir mynd i'r afael â'r rhain drwy weledigaeth, amcanion a pholisïau strategol eang. Mae'r ymgynghoriad yn ymdrin â graddfa arfaethedig y twf o ran tai a chyflogaeth yn y dyfodol.

Yn ogystal, gwahoddir sylwadau ar y safleoedd ymgeisiol a restrir yn y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol a gyflwynwyd yn ystod yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol yn 2022.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr ymgynghoriad ar wefan y Cyngor:

Cynllun Datblygu Lleol Newydd (2022 - 2037)

Yn ystod y cyfnod ymgynghori, sy'n dod i ben ar 7 Hydref 2024, gellir archwilio'r prif ddogfennau ymgynghori yn ystod oriau agor arferol yn:

  • Neuadd y Sir, Llandrindod.
  • Llyfrgelloedd: Aberhonddu, Llanfair-ym-Muallt, Llandrindod, Llanfyllin, Llanidloes, Llanwrtyd, Machynlleth, Y Drenewydd, Llanandras, Y Trallwng ac Ystradgynlais.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu