Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Digwyddiad recriwtio gwaith cymdeithasol

A social worker and a child

2 Medi 2024

A social worker and a child
Gwahoddir gweithwyr cymdeithasol cymwys a phrofiadol sy'n chwilio am gyfleoedd newydd i ymuno â digwyddiad recriwtio ar-lein ym mis Medi.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Powys yn recriwtio ar gyfer nifer o rolau gweithwyr cymdeithasol a rolau uwch oddi fewn i Wasanaethau Plant.

Mae swyddi llawn amser a rhan-amser ar gael a dewis o leoliadau gwaith.

Cynhelir digwyddiad recriwtio ar-lein ddydd Iau 26 Medi rhwng 6 a 7pm lle gall ymgeiswyr posibl gyfarfod â'r timau recriwtio, canfod rhagor am y rolau, a gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.

Os ydych yn weithiwr proffesiynol ymroddedig sydd am wneud gwahaniaeth i fywydau plant ym Mhowys, byddai'r Cyngor wrth ei fodd yn clywed gennych.

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad ac i gael gwybod mwy am y rolau, ewch i: https://cy.powys.gov.uk/gc-digwyddiadau

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu