Toglo gwelededd dewislen symudol

Argymhellion o'r Adolygiad o Feysydd Parcio Cyngor Sir Powys

Image of parked cars

4 Medi 2024

Image of parked cars
Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd, trafodaethau, dadansoddiadau data ac ymarferion meincnodi, mae'r adolygiad o feysydd parcio Cyngor Sir Powys wedi'i gwblhau gydag argymhellion yn cael eu trafod gan bwyllgor craffu'r cyngor wythnos nesaf, dydd Llun 9 Medi.

Law yn llaw ag aelodaeth wleidyddol gytbwys o gynghorwyr, roedd y grŵp adolygu trawsbleidiol hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o gynghorau tref a busnesau lleol lle mae meysydd parcio wedi'u lleoli.  Yr ymgynghorwyr di-duedd annibynnol AtkinsRealis fu'n arwain yr adolygiad.                                                                                         

Yn ogystal â thaliadau parcio ceir, ystyriodd yr adolygiad y ffordd orau o reoli holl feysydd parcio'r cyngor, nifer yr ymwelwyr â chanol trefi, effeithiau a manteision cynlluniau teithio llesol lleol, yr adnoddau sydd ar gael, anghenion y cymunedau lleol a Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy'r cyngor.

Yn dilyn yr adolygiad, mae'r adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i'r cabinet ac yn cael ei drafod gan y pwyllgor craffu yn argymell bod y cyngor yn:

  • Adfer y tâl parcio 1 awr i feysydd parcio arhosiad hir yn y trefi lle nad oes meysydd parcio arhosiad byr (Llanfair-ym-Muallt, Crughywel, Llanidloes, Machynlleth, Llanandras ac Ystradgynlais)
  • Cynyddu'r prisiau ar gyfer taliadau parcio 2-4 awr a pharcio drwy'r dydd i liniaru'r pwysau ariannol o adfer yr opsiwn parcio 1 awr yn y meysydd parcio arhosiad hir penodedig
  • Adolygu opsiynau ar gyfer cyflwyno taliadau mewn meysydd parcio cyngor oddi ar y stryd lle nad oes strwythur codi tâl ar hyn o bryd
  • Adolygu opsiynau ar gyfer diwygio trwyddedau meysydd parcio i fod yn ddilys ar gyfer meysydd parcio unigol penodol, gydag opsiwn i uwchraddio i'w defnyddio mewn sawl maes parcio yn y sir.
  • Bydd parcio am ddim ar gyfer digwyddiadau yn dod i ben oni bai y gall y gyllideb dalu am yr holl gostau cysylltiedig

"Er bod darparu trafnidiaeth gynaliadwy mewn ardaloedd gwledig yn heriol, mae Cyngor Sir Powys yn cydnabod bod angen darparu parcio diogel a chyfleus o fewn ein trefi ar hyn o bryd." Eglurodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Fodd bynnag, mae hyn yn costio. Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir Powys yn rhagweld diffyg yn ei gyllideb, yn seiliedig ar ddadansoddiad cyllidol cenedlaethol, o dros £9.6miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gyda'r ffigur hwnnw'n codi i £50.9 miliwn neu fwy dros y pedair blynedd nesaf.

"Powys Gynaliadwy yw'r dull y mae'r cyngor yn ei weithredu i fod yn arloesol ac yn rhagweithiol i ail-feddwl sut mae gwasanaethau'n cael eu darparu i gwrdd â phwysau cyllidebol yn y dyfodol. Rydym am gael cyngor ar gyfer y dyfodol sy'n darparu gwasanaethau llywodraeth leol o safon i'n cymunedau gyda gwell canlyniadau. Mae angen i hyn fod yn fforddiadwy  ar gyfer ein trigolion a'n busnesau, ac yn fforddiadwy i ni ei ddarparu a'i gynnal ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Credwn fod yr argymhellion a gyflwynwyd o'r adolygiad hwn o feysydd parcio yn cyflawni ar gyfer y cymunedau a'r cyngor sir wrth symud ymlaen.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu