Mae Powys yn cefnogi Wythnos Diogelwch Nwy 2024
4 Medi 2024
Mae Wythnos Diogelwch Nwy yma i atgoffa'r cyhoedd a busnesau sut i gadw eu hunain yn ddiogel mewn perthynas â nwy, ac mae sefydliadau ledled y wlad yn cydweithio i godi ymwybyddiaeth o beryglon offer nwy sy'n cael eu cynnal a'u cadw'n wael, sy'n gallu achosi gollyngiadau nwy, tanau, ffrwydradau a gwenwyno carbon monocsid (CO).
Eleni ar gyfer Wythnos Diogelwch Nwy, y thema yw 'Gwirio—Mae Pob Gwiriad yn Cyfrif', gan bwysleisio pwysigrwydd archwiliadau diogelwch nwy rheolaidd, ymysg pethau eraill. Mae'r thema yn amlygu arwyddocâd gwirio pob teclyn nwy ac annog pobl i flaenoriaethu diogelwch nwy yn eu cartrefi. Drwy ddangos pa mor bwysig yw pob gwiriad, nod Wythnos Diogelwch Nwy yw codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo mesurau i sicrhau diogelwch a lles aelwydydd.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Rydym yn falch o gefnogi Wythnos Nwy Diogel 2024 a helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel.
"Rwy'n annog holl drigolion a busnesau Powys i fod yn wyliadwrus. Dilynwch y cyngor a'r canllawiau y mae'r Gofrestr Diogelwch Nwy wedi'u cyhoeddi gan y bydd hyn yn helpu sicrhau bod eich offer nwy yn rhydd o ollyngiadau a pheryglon eraill, a'u bod yn ddiogel i'w defnyddio.
"Gofalwch eich bod bob amser yn defnyddio peiriannydd cofrestredig Diogelwch Nwy cymwys i wasanaethu eich offer, ac os nad yw rhywbeth yn edrych yn iawn, cysylltwch â'r Gofrestr Diogelwch Nwy a fydd yn gallu eich cefnogi."
Dywedodd Jonathan Samuel, Prif Swyddog Gweithredol y Gofrestr Diogelwch Nwy: Dyma'r bedwaredd wythnos ar ddeg inni gynnal wythnos Diogelwch Nwy a thema 2024 yw Gwirio—Mae pob Gwiriad yn Cyfrif. Bydd yr wythnos yn annog gwirio, mewn sawl ffordd, ac yn taflu goleuni ar bwysigrwydd diogelwch nwy wrth gadw ein hunain a'n cymuned yn ddiogel. Drwy gydol Wythnos Diogelwch Nwy, bydd ein partneriaid, rhanddeiliaid a'r Gofrestr Diogelwch Nwy yn rhannu gwybodaeth i helpu pawb i fod yn ddiogel o ran nwy, felly rwy'n falch iawn o gael cefnogaeth Cyngor Sir Powys i helpu rhannu'r negeseuon hynny, megis gwirio'r Gofrestr Diogelwch Nwy i sicrhau bod eich peiriannydd wedi'i gofrestru ac yn gymwys."
Cofiwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddiweddariadau a chyngor drwy gydol Wythnos Diogelwch Nwy drwy ddilyn @GasSafeRegister ar Facebook, Twitter ac Instagram a chwilio #GSW24 a #WythnosDiogelwchNwy.
Drwy ofalu am eich offer nwy yn iawn, rydych chi'n gofalu am eich cartref a'ch anwyliaid. Ni waeth pa mor fawr neu fach y mae pob gwiriad yn cyfrif. Dyma ganllaw i rai gwiriadau syml y gallwch eu gwneud gartref:
- Gwiriwch eich bod wedi cael gwiriad diogelwch nwy blynyddol.Dylai offer nwy gael ei wirio o safbwynt diogelwch unwaith y flwyddyn a'i wasanaethu'n rheolaidd gan beiriannydd cofrestredig Diogelwch Nwy. Tenantiaid: Gofalwch fod eich landlord yn trefnu hyn.
- Gwiriwch fod eich peiriannydd wedi cofrestru gyda Diogelwch Nwy. Defnyddiwch beiriannydd cofrestredig Diogelwch Nwy bob amser a sicrhau eu bod yn gymwys ar gyfer y gwaith sydd angen ei wneud drwy wefan y Gofrestr Diogelwch Nwy a chofiwch ofyn am gael gweld cerdyn adnabod y peiriannydd.
- Gwiriwch am arwyddion rhybudd a allai ddangos nad yw eich offer nwy yn gweithio'n gywir. Gall arwyddion gynnwys fflamau melyn/oren diog yn hytrach na rhai glas clir, marciau du ar neu o amgylch yr offeryn, golau peilot sy'n mynd allan o hyd, gormod o gyddwysiad yn yr ystafell, neu negeseuon gwall ar banel rheoli'r offeryn.
- Gwiriwch nad yw fentiau na ffliwiau wedi'u blocio.Mae dyfeisiau a ffliwiau yn bodoli i sicrhau bod eich offer nwy yn gweithio'n ddiogel. Gallai eu blocio atal hyn.
- Gwiriwch eich gwybodaeth.Cofiwch y chwe phrif symptomau o wenwyn carbon monocsid: cur pen, pendro, diffyg anadl, cyfog, cwympo, a cholli ymwybyddiaeth.
- Gwiriwch eich larwm carbon monocsid (CO). Mae profion rheolaidd yn sicrhau bod larymau yn weithredol ac yn gallu eich rhybuddio am bresenoldeb CO marwol. Hefyd, gwiriwch eu bod wedi'u marcio â safonau EN50291 ac yn dal i fod yn gyfredol o ran dyddiad (os yn berthnasol).
- Gwiriwch cyn gwneud DIY.Cyn drilio neu ddefnyddio morthwyl, gwiriwch nad oes risg o daro pibell nwy.Peidiwch byth â gwneud DIY ar ddyfais nwy; os ydych chi'n amau bod rhywbeth o'i le ar eich offeryn neu nad yw'n gweithio'n iawn, ffoniwch beiriannydd cofrestredig Diogelwch Nwy. Gallwch ddod o hyd i un ar https://www.gassaferegister.co.uk/cy/ neu ffoniwch 0800 408 5500.
Y Gofrestr Diogelwch Nwy yw'r gofrestr swyddogol ar gyfer peirianwyr sydd â chymwysterau cyfreithiol. Gallwch ddod o hyd i beiriannydd cofrestredig yn eich ardal drwy ymweld â gwefan y Gofrestr Diogelwch Nwy: https://www.gassaferegister.co.uk/cy/