Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cynnal a chadw ar wefan Cyngor Sir Powys ddydd Mawrth 15 Hydref

Dim penderfyniad am ganolfannau hamdden y sir

Image of a person swimming

9 Medi 2024

Image of a person swimming
Nid yw'r cyngor wedi gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch trefn a strwythur canolfannau hamdden y sir yn y dyfodol, meddai Cyngor Sir Powys.

Ailadroddodd y cyngor ei safbwynt ar ôl derbyn pryderon gan gymunedau lleol bod penderfyniadau wedi eu gwneud i gau canolfannau hamdden.

Mae adolygiad y cyngor o ddarpariaeth hamdden yn cael ei gwblhau a bydd y canfyddiadau'n cael eu cyhoeddi a'u hystyried gan y Cabinet a Phwyllgor Craffu'r Economi, Preswylwyr a Chymunedau yr hydref hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Rwyf am sicrhau ein trigolion nad oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud am ddyfodol darpariaeth hamdden ledled y sir. Yr ydym yn benderfynol o weithio gyda'n cymunedau a phobl Powys wrth lunio darpariaeth holl wasanaethau'r cyngor yn y dyfodol

"Mae ein hadolygiad trwyadl o ddarpariaeth hamdden y sir yn cael ei gwblhau a bydd hyn yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir a bydd yn cael ei ystyried gan y Cabinet a'r pwyllgor craffu perthnasol.

"Fodd bynnag, mae'r cyngor yn wynebu pwysau ariannol sy'n rhoi bwlch sylweddol i ni yn ein cyllid. Mae hyn yn golygu na allwn fforddio parhau i ddarparu ein gwasanaethau yn yr un modd.

"O ystyried yr heriau sy'n ein hwynebu, mae pob maes o'r cyngor yn cael ei adolygu.

"Ein nod yw darparu canolfannau hamdden o ansawdd da y gall y cyngor fforddio eu rhedeg ac sydd mor hygyrch â phosibl i holl drigolion ein sir.

"Mae Powys Gynaliadwy yn ymwneud â chydweithio i gynllunio dyfodol, a hefyd adeiladu cydnerthedd fel y gall atebion a arweinir gan y gymuned helpu i ddiwallu anghenion lleol. Mae'n ymwneud â bod yma ar gyfer y rhai sydd angen cymorth fwyaf.

"Er ein bod ni yng nghamau cychwynnol y cynllunio, rydym yn gwneud cynnydd wrth ddatblygu syniadau ynghylch sut y byddwn yn darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Mae ein gwaith yn cynnwys edrych ar asedau'r cyngor, a'r ffordd rydym yn rheoli gwasanaethau pwysig fel addysg, gofal cymdeithasol, hamdden a thrafnidiaeth."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu