Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cynnal a chadw ar wefan Cyngor Sir Powys ddydd Mawrth 15 Hydref

Llwyddiant efydd i Ysgol Uwchradd Aberhonddu

Image of Brecon High School's new building

9 Medi 2024

Image of Brecon High School's new building
Mae ysgol uwchradd yn ne Powys sydd wedi ennill gwobr bwysig am greu amgylchedd cadarnhaol i blant y Lluoedd Arfog wedi cael ei llongyfarch gan y cyngor sir am ei hymdrechion.

Mae Ysgol Uwchradd Aberhonddu wedi ennill Statws Efydd Ysgolion sy'n Cefnogi'r Lluoedd Arfog SSCE Cymru.

Nod y Statws Ysgolion sy'n Cefnogi'r Lluoedd Arfog SSCE Cymru, sy'n cael ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog yw:

  • Ymgorffori arfer da ar gyfer cefnogi plant y Lluoedd Arfog
  • Creu amgylchedd cadarnhaol i blant y Lluoedd Arfog rannu eu profiadau
  • Annog ysgolion i ymgysylltu'n fwy â'u cymuned Lluoedd Arfog.

Mae'r statws yn dangos ymrwymiad ysgol i gymuned y Lluoedd Arfog.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: "Rwyf wrth fy modd bod Ysgol Uwchradd Aberhonddu wedi ennill statws efydd yn y wobr bwysig hon.

"Mae eu llwyddiant yn dangos eu bod yn rhoi croeso cynnes a chyfeillgar i blant y Lluoedd Arfog a'u bod yn adeiladu perthnasoedd cryf a pharhaol gyda chymuned leol y Lluoedd Arfog."

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Hoffwn longyfarch Ysgol Uwchradd Aberhonddu am eu llwyddiant. Mae ennill y statws efydd yn gyflawniad gwych ac yn dangos eu hymrwymiad i gefnogi a diwallu anghenion plant y Lluoedd Arfog yng nghymuned eu hysgol."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu