Gostyngiad o 10% mewn ynni a ddefnyddir yng nghanolfannau hamdden Powys

16 Medi 2024

Gwnaed gwelliannau ym mhob un o'r 14 safle sy'n cael eu rhedeg gan Freedom Leisure ar gyfer Cyngor Sir Powys, gyda chefnogaeth grantiau gwerth £284,881 gan Chwaraeon Cymru. Mae cronfeydd eraill wedi dod oddi wrth y cyngor yn bennaf, ond cafwyd cyfraniadau gan raglen Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Cafodd y defnydd o nwy y flwyddyn gan Freedom Leisure ei gwtogi bellach gan 750,000 kWh (9.6%) a'r defnydd o drydan gan 181,000 kWh (8.7%).
Amcangyfrifir mai 210 tunnell o CO2e yw cyfanswm yr arbedion carbon.
Mae'r mesurau arbed carbon ac ynni y mae'r cyngor wedi'u gosod yn cynnwys:
- 80 kWp o baneli solar yng Nghanolfan Hamdden y Fflash yn y Trallwng.
- 22 kWp o baneli solar gyda storfa batri 40 kWp a goleuadau LED yng Nghanolfan Hamdden Rhaeadr Gwy.
- 18 kWp paneli solar gyda storfa batri 10 kWp ac inswleiddio atig yng Nghanolfan Chwaraeon Llanfair-ym-Muallt.
- Ffaniau arbennig (sy'n helpu i gydbwyso tymheredd dan do) yn neuaddau'r pyllau nofio yn Aberhonddu, Bro Ddyfi (Machynlleth), Llanfair-ym-Muallt, Dwyrain Maesyfed (Llanandras), y Fflash, Tref-y-clawdd, Llanidloes, Maldwyn (Y Drenewydd), Rhaeadr Gwy ac Ystradgynlais.
- Boeleri newydd ar gyfer systemau gwresogi newydd sy'n effeithlon o ran ynni ym Mro Ddyfi, Rhaeadr Gwy, Llanfair-ym-Muallt a Llanfair Caereinion.
- Uwchraddio system rheoli adeiladu (rheoli gwresogi, awyru a chyflyru'r aer) yn Llandrindod, Llanidloes, Llanfyllin a Rhaeadr Gwy.
- Uwchraddio llif-oleuadau LED ar gyfer y trac athletau yn Aberhonddu ac ar gyfer y caeau yn Aberhonddu, Llanfyllin, Llanfair Caereinion ac Ystradgynlais.
- Goleuo dan do LED newydd yn Ystradgynlais, Aberhonddu, Bro Ddyfi, Llanfair Caereinion, Rhayader Gwy, y Fflash, Maldwyn a Llanidloes.
Dyluniwyd y cynlluniau gan Wasanaethau Dylunio Eiddo Cyngor Sir Powys a'u rheoli gan ei Dimau Llesiant Cymunedol ac Eiddo Strategol.
"Rydym yn ddiolchgar i Chwaraeon Cymru am y cyllid grant hwn sydd, ynghyd â'n cyfraniad ni, wedi caniatáu i Freedom Leisure wneud toriadau sylweddol i'r ynni y mae'n ei ddefnyddio ac i'w allyriadau carbon ym Mhowys, dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Gysylltiedig. "Gwnaed y gwaith hwn ar ôl llunio arolygon cyflwr ac adroddiadau carbon ar ein holl ganolfannau hamdden, sy'n dangos bod gennym ffordd bell iawn i fynd o hyd i gyrraedd ein targed - a bennwyd gan Lywodraeth Cymru - sef bod yn sero net o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2030.
"Fel cyngor, rydym am gefnogi ein cymunedau i fod yn fwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol fel rhan o'n dull Gweithredu Powys Gynaliadwy."
Ychwanegodd y Cyngh Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Mae'r gwaith hwn yn hanfodol. Yn y tymor byr, y gaeaf hwn, bydd yn arbed arian tra bydd prisiau tanwydd yn codi ac yn y tymor hirach bydd yn gwneud canolfannau hamdden yn wyrddach ac yn lleoedd gwell i ymweld â nhw a gweithio ynddynt.
"Mae hon yn enghraifft dda o'r hyn y gellir ei wneud i lawer o adeiladau cyhoeddus i'w gwneud yn gynaliadwy ar gyfer y tymor hir. Mae'n dangos bod y cyngor yn cyflawni ei ymrwymiad i wneud y sir yn gryfach, yn decach ac yn wyrddach."
Mae Freedom Leisure hefyd wedi gweithredu cynlluniau rheoli ynni ym mhob un o'r 14 safle i sicrhau bod ei dargedau lleihau costau a lleihau ôl troed carbon yn cael eu bodloni.
Dywedodd Angela Brown, Pennaeth Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd Freedom Leisure: "Rydym wedi blaenoriaethu'r ffordd rydym yn defnyddio ynni ym mhob un o'r canolfannau hyn, gan fabwysiadu arferion rheoli ynni gwell, gan sicrhau ffocws ar leihau'r defnydd o ynni a'r galw gan sicrhau amgylchedd iach, diogel a chyfforddus sy'n bodloni gofynion ein cymunedau.
"Gweithredwyd y mesurau glân a darbodus hyn a'r rhai di-negodol, ar draws pob canolfan gyda chefnogaeth arbenigwyr technegol, ynni ac amgylcheddol mewn-tŷ."
Ychwanegodd Brian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru: "Mae'r argyfwng costau byw, ynghyd â'r argyfwng hinsawdd, yn ei gwneud yn fwy pwysig nag erioed i fuddsoddiadau gael eu gwneud i gyfleusterau canolfannau hamdden sy'n cael eu gwerthfawrogi gymaint gan y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
"Rydym yn falch bod ein cyllid yn cael ei ddefnyddio i helpu i leihau costau rhedeg hirdymor mewn cyfleusterau hamdden ym Mhowys, gan alluogi'r cyfleusterau hyn i fod yn fwy cynaliadwy yn ariannol ac i allu parhau i ddarparu gweithgareddau fforddiadwy i bobl leol. Bydd y prosiectau hyn hefyd yn cynhyrchu arbedion carbon sylweddol, gan helpu i gefnogi targedau newid hinsawdd Cymru."
Mae'r cyngor yn buddsoddi £60,000 arall mewn pedwar prosiect peilot i weld pa fesurau allai weithio orau ym mhob safle, er mwyn lleihau ymhellach y defnydd o ynni ac allyriadau carbon:
- Gosod rheolyddion addoerol clyfar yn y Fflash.
- Gosod rheoliadur llosgydd deinamig ar y boeleri a'r rheoliadur clyfar ar y system aerdymheru ym Maldwyn.
- Ychwanegu EndoTherm at ddŵr yn y system wresogi yn Aberhonddu.
- Gosod falfiau rheiddiaduron thermostatig clyfar yn Ystradgynlais.
Mae'r cyngor hefyd yn gwneud cais am fwy o gyllid Chwaraeon Cymru ar gyfer:
- Paneli Solar yn Aberhonddu, Maldwyn ac Ystradgynlais.
- Uwchraddio goleuadau LED ym Maldwyn, Aberhonddu a Llanfair-ym-Muallt.
- Ffaniau arbennig yn yr ystafelloedd ffitrwydd yn y Fflash, Maldwyn ac Aberhonddu.
- Mesurau effeithlonrwydd peiriannau'r pwll nofio ym Maldwyn a Llanidloes.
LLUN: System solar 80 kWp yng Nghanolfan Hamdden y Fflash yn y Trallwng.