Toglo gwelededd dewislen symudol

Terfynau cyflymder 20mya - diweddariad a chamau nesaf

Image of a 20mph sign

17 Medi 2024

Image of a 20mph sign
Rhwng mis Ebrill a mis Awst, estynnwyd gwahoddiad gan Lywodraeth Cymru i bobl ledled Cymru i gysylltu â'u hawdurdod lleol gydag adborth ar sut yr oedd eu newidiadau i'r terfyn cyflymder diofyn cenedlaethol wedi bod yn gweithredu ar ffyrdd penodol.

Casglodd Cyngor Sir Powys, ynghyd â phob cyngor arall yng Nghymru, adborth trigolion ar derfynau 20mya yn ystod yr ymarfer gwrando hwn, a ddaeth i ben ddiwedd mis Awst.

I grynhoi, gellir rhannu'r adborth a dderbyniwyd fel a ganlyn:

53 o Ymatebion yn gofyn am ddirymu'r polisi 20mya. Ni allwn weithredu ar y rhain ac maent wedi'u cyfeirio at Lywodraeth Cymru.

97 o Ymatebion yn cefnogi cadw'r terfynau cyflymder o 20mya.

67 o Ymatebion yn gofyn i newid 20mya i 30mya neu newid 30mya i 20mya mewn lleoliadau penodol. Mae rhai o'r rhain yn cyfeirio at yr un ardaloedd ac yn effeithio ar 48 safle unigol neu ran o'r ffordd.

25 o Ymatebion ar gyfer ceisiadau am derfynau cyflymder sydd y tu allan i gylch gwaith adolygiad 20mya Llywodraeth Cymru.  Yn amodol ar adnoddau, bydd y rhain yn cael eu hadolygu unwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r Terfynau Cyflymder Lleol newydd yng Nghymru.

Mae'r adborth hwn sy'n ymwneud â'r 48 safle neu ran o ffordd unigol yn cael ei asesu yn erbyn canllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru ar osod terfynau cyflymder 30mya ar ffyrdd cyfyngedig a ffyrdd terfyn cyflymder 20mya eraill.  Cyhoeddwyd  y canllawiau diwygiedig hyn  ym mis Gorffennaf.

Mae'n bwysig nodi nad dyma ddiwedd y broses, a bod nifer o gamau y bydd angen eu dilyn dros y misoedd nesaf. Bydd cyfleoedd pellach i chi ddweud eich dweud.

Camau nesaf

Byddwn yn adolygu'r holl adborth a gawsom yn erbyn y canllawiau diwygiedig. Wrth benderfynu a ddylai ffordd gael terfyn cyflymder uwch, rhaid i ni fod yn sicr na fydd unrhyw gynnydd o'r fath yn cael effaith negyddol ar ddiogelwch ar y ffyrdd.

Bydd unrhyw ran o'r ffordd y bernir ei bod yn addas ar gyfer newid, naill ai'n ôl i 30mya neu i lawr i 20mya, yn cael ei rhannu gyda chynghorwyr lleol a Chynghorau Tref a Chymuned am unrhyw sylwadau pellach. Yn dilyn hyn, bydd unrhyw argymhellion i newid y terfynau cyflymder wedyn yn ddarostyngedig i broses gorchymyn rheoleiddio traffig statudol cyfreithiol, cyn i unrhyw newidiadau gael eu gweithredu.

Bydd pob Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus, lle gall preswylwyr ddangos cefnogaeth neu godi gwrthwynebiadau. Yn dilyn yr ymgynghoriadau Gorchmynion Rheoleiddio Traffig, gwneir penderfyniadau terfynol ar unrhyw newidiadau fel rhan o brosesau penderfynu arferol y cyngor.

"Rydym yn ddiolchgar i'r rhai a roddodd o'u hamser i roi adborth i ni yn ystod ymarfer gwrando diweddar Llywodraeth Cymru." Meddai'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Powys Wyrddach. "Roedd yn braf cael cymaint o sylwadau cadarnhaol i gefnogi'r polisi 20mya a sut roedd trigolion yn teimlo ei fod wedi gwella diogelwch ar y ffyrdd a'r amgylchedd lleol yn eu cymunedau.

"Ar gyfer y 48 safle neu ran o ffyrdd unigol a nodwyd, bydd y broses yn dechrau asesu'r adborth yn erbyn canllawiau newydd Llywodraeth Cymru.

"Ar gyfer unrhyw ffyrdd lle gellid newid y terfyn cyflymder, byddwn yn cysylltu â'r cynghorwyr lleol perthnasol a'r Cynghorau Tref a Chymuned perthnasol. Bydd cyfle hefyd i bobl Powys ddweud eu dweud am unrhyw newidiadau pellach."

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu ar ôl i ni gwblhau ein hadolygiad.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu