Toglo gwelededd dewislen symudol

Penwythnos Agored yng Nghanolfannau Hamdden Powys

Freedom Open Weekend

19 Medi 2024

Freedom Open Weekend
Ddydd Sadwrn 28 a dydd Sul 29 Medi, bydd Canolfannau Hamdden ym Mhowys sy'n cael eu rhedeg gan Freedom Leisure, yn llawn cyffro wrth iddynt groesawu'r gymuned leol i'w penwythnos agored, gan gynnig rhywbeth i bawb!

Bydd mynediad am ddim i'r gym drwy gydol y penwythnos, dosbarthiadau ffitrwydd am ddim ac archebu cwrt am ddim, felly bydd rhywbeth i bawb roi cynnig arno. Gallwch hefyd gael ychydig o hwyl yn y pwll nofio gyda'r plant gyda sesiynau nofio am ddim sydd ar gael mewn canolfannau dethol.

Dywedodd Richard Milne, Rheolwr Ardal ar gyfer Freedom Leisure yng Ngogledd Powys:

"Mae canolfannau hamdden ffantastig gennym ledled Powys ac rydym ni'n edrych ymlaen at groesawu ein cymuned leol i'n penwythnos agored i roi tro ar bopeth sydd gennym i'w gynnig. Rydym ni'n gobeithio y bydd hyn yn annog pobl i symud tuag at ffordd o fyw iach, a bod yn fwy actif, yn amlach."

Mae Freedom Leisure, un o'r prif ymddiriedolaethau hamdden nid-er-elw, yn rhedeg Canolfannau Hamdden ledled Powys mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys.

Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.freedom-leisure.co.uk/news/open-days-across-north-powys/ and https://www.freedom-leisure.co.uk/news/open-days-across-south-powys/

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu