Penwythnos Agored yng Nghanolfannau Hamdden Powys
19 Medi 2024
Bydd mynediad am ddim i'r gym drwy gydol y penwythnos, dosbarthiadau ffitrwydd am ddim ac archebu cwrt am ddim, felly bydd rhywbeth i bawb roi cynnig arno. Gallwch hefyd gael ychydig o hwyl yn y pwll nofio gyda'r plant gyda sesiynau nofio am ddim sydd ar gael mewn canolfannau dethol.
Dywedodd Richard Milne, Rheolwr Ardal ar gyfer Freedom Leisure yng Ngogledd Powys:
"Mae canolfannau hamdden ffantastig gennym ledled Powys ac rydym ni'n edrych ymlaen at groesawu ein cymuned leol i'n penwythnos agored i roi tro ar bopeth sydd gennym i'w gynnig. Rydym ni'n gobeithio y bydd hyn yn annog pobl i symud tuag at ffordd o fyw iach, a bod yn fwy actif, yn amlach."
Mae Freedom Leisure, un o'r prif ymddiriedolaethau hamdden nid-er-elw, yn rhedeg Canolfannau Hamdden ledled Powys mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys.
Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.freedom-leisure.co.uk/news/open-days-across-north-powys/ and https://www.freedom-leisure.co.uk/news/open-days-across-south-powys/