Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cynnal a chadw ar wefan Cyngor Sir Powys ddydd Mawrth 15 Hydref

Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd

Image of the Green Libraries branding - welsh

26 Medi 2024

Image of the Green Libraries branding - welsh
Bydd llyfrgelloedd Powys yn torchi eu llewys ac yn dathlu eu rhinweddau gwyrdd yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd y mis nesaf.

Mae Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd Cenedlaethol yn dychwelyd eleni, gan redeg rhwng 7-13 Hydref 2024, a gwahoddir defnyddwyr llyfrgell, hen a newydd, i gymryd rhan a chael gwybod mwy am gynaliadwyedd a helpu i leihau newid hinsawdd.

Wrth gwrs, nid yw bod yn gynaliadwy yn ddim byd newydd i'n llyfrgelloedd na'u defnyddwyr. Benthyg llyfr o'ch llyfrgell leol, yn hytrach na phrynu o'r newydd, yw'r dewis eithaf o ran bod yn gynaliadwy, fel y mae defnyddio'r cyfleusterau a rennir fel cyfrifiaduron, argraffyddion a gofod desg. Ac nid llyfrau yn unig y gallwch eu benthyg o'ch llyfrgell. Gallwch hefyd fenthyg e-lyfrau, llyfrau llafar, iPad, monitorau pwysedd gwaed, pecynnau codi sbwriel neu hyd yn oed feiciau cydbwysedd!

Drwy gydol yr wythnos byddwn yn cynnal sioeau ailgylchu teithiol lle gallwch ddarganfod sut i wneud y gorau o'ch blychau ailgylchu gartref a helpu'r amgylchedd drwy sicrhau eich bod yn ailgylchu cymaint o'ch gwastraff â phosibl a gwneud dewisiadau cynaliadwy:

Sioeau Teithiol Ailgylchu

  • Dydd Llun 7 Hydref, 9:30 - 13:00 yn Llyfrgell Machynlleth
  • Dydd Mawrth 8 Hydref, 10:00 - 14:00 yn Llyfrgell Y Drenewydd
  • Dydd Mercher 9 Hydref, 10:00 - 14:00 yn Llyfrgell Aberhonddu/Y Gaer
  • Dydd Iau 10 Hydref, 10:00 - 14:00 yn Llyfrgell Ystradgynlais
  • Dydd Iau 10 Hydref, 9:30 - 12:30 yn Llyfrgell Llanfyllin
  • Dydd Gwener 11 Hydref, 10:00 - 14:00 yn Llyfrgell Llandrindod/Gwalia

"Gallwn ni i gyd wneud ein rhan i helpu i leihau ein heffaith ar newid hinsawdd a gwella ein hamgylchedd drwy wneud dewisiadau mwy cynaliadwy." Eglurodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

"Mae defnyddio llyfrgelloedd i fenthyg llyfrau, a'r holl bethau gwych eraill sy'n cael eu cynnig, yn hytrach na phrynu rhai newydd, yn ffordd berffaith o fynd yn groes i'r diwylliant prynu a'n helpu ni i gyd i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu yn ein bywydau bob dydd. Yn ystod yr Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd hon, beth am alw heibio'ch llyfrgell leol a chael gwybod mwy am ailgylchu, a sut y gallwch wneud rhagor."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu