Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Cyngor yn cyflwyno neges atgoffa i ffermwyr yn dilyn erlyniad iechyd anifeiliaid

Image of a sheep and two cows

30 Medi 2024

Image of a sheep and two cows
Atgoffir ffermwyr ym Mhowys am bwysigrwydd darparu gofal digonol i'w da byw yn sgil neges gan y cyngor sir ar ôl erlyniad diweddar.

Mae Tîm Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Powys wedi anfon y nodyn atgoffa ar ôl iddynt erlyn ffermwr o ogledd Powys yn llwyddiannus am achosi dioddefaint diangen a methu â darparu gofal digonol i ddefaid a gwartheg ar ei fferm.

Cafodd y diffynnydd, a blediodd yn euog i sawl trosedd dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, ddedfryd o 24 wythnos o garchar, wedi'i ohirio am flwyddyn, gan Lys Ynadon Llandrindod ddydd Mercher, 25 Medi 2024.

Cafodd y ffermwr hefyd ei wahardd rhag ymwneud â da byw gan gynnwys cadw a delio â da byw mewn unrhyw ffordd.  Daw'r gorchymyn gwahardd i rym ar 1 Ionawr 2025 i roi tri mis i'r diffynnydd gael gwared ar ei dda byw.

Roedd ynadon hefyd yn gorchymyn i'r diffynnydd dalu £1,600 o gostau a gordal dioddefwr o £154.

Clywodd y llys am y troseddau difrifol a gyflawnwyd a oedd yn cynnwys achosion eithafol o gynrhon, lle roedd anifeiliaid yn crynu am eu bod yn cael eu bwyta'n fyw gan gynrhon a oedd y bla ar groen y defaid hynny.

Roedd 76 o ddefaid wedi eu gadael â syched oherwydd nad oedd digon o ddŵr ar gael a gadawyd 11 o ŵyn i ddioddef o ddiffyg maeth a chyflyrau corff cronig oherwydd nad oedd digon o borthiant a dŵr ffres iddyn nhw.

Nid oedd darpariaeth ddigonol i fuwch a'i llo chwaith a  chanfuwyd dwy ddafad orweddol wedi'u gadael i farw heb  heb ddŵr, porthiant na gwellt gwely.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel "Ni fyddwn yn caniatáu i achosion o ddioddefaint fel hyn ddigwydd heb fod yna gosb amdanynt.

"Rydym yn croesawu'r dedfrydu gan y llys ac mae hyn yn rhybudd clir i'r gymuned ffermio y bydd arferion fel hyn yn golygu y byddwn yn gwneud cais am orchmynion gwahardd i atal troseddwyr rhag cadw da byw.

"Fe wnaeth ein Tîm Iechyd Anifeiliaid gymryd y troseddau o ddifrif a gweithredu, a hynny'n briodol, sydd wedi arwain at yr erlyniad llwyddiannus hwn. Os byddwn yn dod ar draws achosion tebyg i hyn yn y dyfodol, byddwn yn erlyn."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu