Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cynnal a chadw ar wefan Cyngor Sir Powys ddydd Mawrth 15 Hydref

Annog ffermwyr i fod yn wyliadwrus o glefyd y Tafod Glas

Image of a sheep and two cows

1 Hydref  2024

Image of a sheep and two cows
Mae ffermwyr ym Mhowys yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus ar ôl i seroteip 3 y Tafod Glas (BTV-3) gael ei ddynodi mewn tair dafad a gafodd eu symud o ddwyrain Lloegr i Wynedd.

Dyma'r tro cyntaf i'r Tafod Glas-3 gael ei ganfod yng Nghymru ac mae'n dilyn canfod achosion BTV-3 yn nwyrain Lloegr dros y mis diwethaf.

Erbyn hyn, mae Tîm Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Powys yn annog ffermwyr i fod yn wyliadwrus o'r clefyd ac i fynd ati i brynu da byw o ffynonellau diogel. 

Mae'r tafod glas yn cael ei achosi gan feirws sy'n cael ei drosglwyddo'n bennaf gan rai rhywogaethau o wybed cnoi. Mae'n effeithio ar anifeiliaid cnoi cil (fel gwartheg, geifr, defaid a cheirw) a chamelidau (fel alpacas a lamas).

Nid yw'r tafod glas yn effeithio ar bobl nac yn peryglu diogelwch bwyd.

Mae'r tafod glas yn glefyd anifeiliaid hysbysadwy. Os oes amheuaeth, rhaid i ffermwyr ym Mhowys roi gwybod amdano ar unwaith drwy ffonio 0300 303 8268.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Mae'r achosion a nodwyd yng Ngwynedd yn dod o anifeiliaid a brynwyd i mewn i Gymru.

Mae'n bwysig siarad â'ch milfeddyg, a defnyddio ffynonellau diogel o dda byw i ddiogelu ein buchesi a'n diadellau a chadw unrhyw glefyd pellach allan o Gymru.

"Byddwn yn annog ffermwyr ac eraill sy'n cadw anifeiliaid cnoi cil a chamelidau i fod yn wyliadwrus am arwyddion y Tafod Glas ac i roi gwybod i APHA am unrhyw achosion tybiedig ar unwaith."

Am y wybodaeth ddiweddaraf ewch i www.gov.uk/bluetongue

Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau am sefyllfa bresennol y tafod glas hefyd ar gael yn https://ruminanthw.org.uk/bluetongue-virus/

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu