Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Prosiectau 12k i ddenu ymwelwyr i Lanidloes a Thalgarth wedi eu cwblhau

One of the new signs welcoming visitors to Llanidloes

7 Hydref 2024

One of the new signs welcoming visitors to Llanidloes
Mae prosiectau sy'n costio cyfanswm o £12,000 ar gyfer arwyddion newydd yn Llanidloes a Thalgarth wedi'u cwblhau diolch i gyllid grant a sicrhawyd gan Gyngor Sir Powys.

Gosodwyd pedair arwydd wrth ddynesu at Lanidloes i groesawu ymwelwyr ar gost o £7,000, tra bod tri map tref a byrddau gwybodaeth wedi'u gosod yn Nhalgarth ar gost o £5,000.

Mae arwyddion Talgarth yn amlygu hanes lleol a llwybrau cerdded lleol ym Mhengenffordd, Rheilffordd y Gelli ac Aberhonddu, a Choetiroedd Talgarth.

Roedd y gwaith yn bosibl diolch i'r cyllid grant o 80% a sicrhawyd gan Wasanaeth Economi a Hinsawdd y cyngor sir gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o gynllun Y Pethau Pwysig. Darparodd Cyngor Tref Llanidloes a Grŵp Croesawu Cerddwyr Talgarth yr arian ychwanegol.

"Mae twristiaeth yn bwysig iawn i economi Powys felly, rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu'r asedau sydd gennym a gwneud ein sir hardd yn lle mwy deniadol i ymweld â hi" meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus. "Rwy'n gobeithio y bydd mwy o bobl nawr yn cael eu hannog i gymryd hoe yn Llanidloes a Thalgarth a cherdded o gwmpas a dod i'w hadnabod

Cafodd y gwelliannau eu rheoli gan Gyngor Tref Llanidloes a Grŵp Croesawu Cerddwyr Talgarth.

Dywedodd Cynghorydd Tref Llanidloes, Andrew Morel, sy'n gyfrifol am gyflawni'r prosiect hwn a ariennir gan y grant:

"Mae'n wych cael arwyddion amlycach sy'n eich croesawu i Lanidloes. Maen nhw'n rhoi gwell darlun o dreftadaeth a hunaniaeth ein tref. Diolch i bawb yn y gymuned a helpodd i gyfrannu at y dyluniad a'r geiriad. 

"Gobeithio y bydd yr arwyddion hyn, a ddarperir gan y grant hwn, yn arwain at fanteision i fwy o bobl sy'n defnyddio ein busnesau a'n cyfleusterau lleol."

Ychwanegodd Havard Prosser, Cadeirydd Grŵp Croesawu Cerddwyr Talgarth: "Rydym wedi croesawu'r cyllid i roi gwybod i ymwelwyr am atyniadau Talgarth a'r cyffiniau."

Mae cynllun Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru wedi gweld £5 miliwn yn cael ei ddyrannu i wella seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ledled Cymru ar gyfer 2023-25.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer yr Economi sy'n gyfrifol am dwristiaeth, Rebecca Evans: "Drwy fuddsoddi mewn gwelliannau ar raddfa fach drwy gynllun Y Pethau Pwysig, rydym yn sicrhau bod trefi fel Llanidloes a Thalgarth yn gallu arddangos eu treftadaeth unigryw a'u harddwch naturiol yn well gan effeithio'n gadarnhaol ar ansawdd profiad yr ymwelydd.

"Mae cefnogi pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd i archwilio popeth sydd gan Gymru i'w gynnig yn hanfodol i'n heconomi a'n diwydiant twristiaeth, a gall y newidiadau bach ond effeithiol fel rhai'r Pethau Pwysig altro pethau'n llwyr."

Llwyddodd Cyngor Sir Powys i sicrhau £300,000 o'r £5 miliwn, sy'n cael ei wario ar 10 prosiect sy'n cwmpasu gwell mynediad, meysydd parcio, llwybrau, mannau gwefru cerbydau trydan, arwyddion a byrddau dehongli, ac uwchraddio toiledau mewn lleoliadau amrywiol.

Ymwelwch â Llanidloes: https://www.llanidloes.com/visit/

Grŵp Croesawu Cerddwyr Talgarth a Gŵyl Gerdded Talgarth: https://www.talgarthwalkingfestival.org/about-us

LLUN: Un o'r arwyddion newydd sy'n croesawu ymwelwyr i Lanidloes.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu