Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Digwyddiadau Cwrdd â'r Prynwr ar gyfer Contractwyr ac Ymgynghorwyr Adeiladu ac Priffyrdd

Construction workers

7 Hydref 2024

Construction workers
A oes gennych ddiddordeb mewn gweithio ar brosiectau sector cyhoeddus? Gwahoddir cwmnïau Adeiladu a Phriffyrdd sydd am hyrwyddo eu gwasanaethau a chysylltu â phrynwyr y sector cyhoeddus i fynychu digwyddiadau 'Cwrdd â'r Prynwr' sydd ar y gweill.

Manylion y Digwyddiad:

Mae Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cynnal digwyddiadau anffurfiol ar y cyd ar gyfer contractwyr ac ymgynghorwyr:

  • Dydd Mercher, 16 Hydref 2024, 10:00-15:00 yn The Barn at Brynich, Aberhonddu LD3 7SH
  • Dydd Mercher, 23 Hydref 2024, 10:00-15:00 yn Theatr Hafren, Y Drenewydd SY16 4HU

Mae'r digwyddiadau'n rhoi cyfle gwerthfawr i gyflenwyr gyflwyno eu hunain i'n prynwyr a dysgu am brosiectau, contractau, fframweithiau a chyfleoedd cadwyn gyflenwi newydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid a Thrawsnewid Corfforaethol, y Cynghorydd David Thomas: "Rydym yn eich annog i ddod draw i'r digwyddiadau hyn beth bynnag yw maint eich busnes gan eu bod yn ddefnyddiol wrth wneud cais am gyfleoedd contractio yn y dyfodol gyda'r cyngor a'r bwrdd iechyd."

Yn y digwyddiadau, bydd contractwyr yn derbyn cefnogaeth i baratoi ar gyfer tendro a thrafod sut i gyflawni'r gofynion tendro.

Bydd llawer o adrannau o Gyngor Sir Powys yn bresennol, gan gynnwys Priffyrdd a Thrafnidiaeth, Gwasanaethau Dylunio Eiddo, Gwasanaethau Dylunio Peirianyddol, Tai, Eiddo Corfforaethol a Gwasanaethau Masnachol. Mae adrannau o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cynnwys Ystadau, Cyfalaf, Eiddo, yr Amgylchedd a Chaffael GIG Cymru.

Ymunwch â ni i 'gwrdd â'r prynwyr' a rhwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.

Gallwch gofrestru yn https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/bwrdd-iechyd-addysgu-powys-a-cyngor-sir-powys-digwyddiadau-cwrdd-ar-prynwr/ neu alw heibio ar y diwrnod.

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys - Admin.Estates.Powys@wales.nhs.uk / 01874 712679

Cyngor Sir Powys  commercialservices@powys.gov.uk / 01597 827686

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu