Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Tîm Ymwybyddiaeth Gwastraff i gynnal Sioeau Teithiol Ailgylchu ar gyfer Wythnos Ailgylchu 2024

Image showing a recycling icon

7 Hydref 2024

Image showing a recycling icon
I gyd-fynd ag Wythnos Ailgylchu 2024, bydd Tîm Ymwybyddiaeth Gwastraff y cyngor yn cynnal cyfres o Sioeau Teithiol Ailgylchu gyda'r nod o ymgysylltu â thrigolion a hyrwyddo pwysigrwydd ailgylchu, gan ganolbwyntio'n arbennig ar leihau ac ailgylchu ein gwastraff bwyd.

Bydd y sioeau teithiol yn digwydd drwy gydol yr wythnos (14 - 20 Hydref) yn y lleoliadau canlynol:

  • Dydd Llun 14 Hydref, 10am - 2pm yn TESCO Y Drenewydd
  • Dydd Mawrth 15 Hydref, 10am - 2pm yn TESCO Y Trallwng
  • Dydd Mercher 16 Hydref, 11am - 2pm yn y Ffair Wybodaeth Gymunedol, Canolfan Celfyddydau Wyeside, Llanfair-ym-Muallt
  • Dydd Iau 17 Hydref, 10am - 2pm yn TESCO Ystradgynlais
  • Dydd Gwener 18 Hydref, 10am - 2pm yn TESCO Llandrindod

Dewch draw i gyfarfod â'r Tîm Ymwybyddiaeth Gwastraff a fydd wrth law i ddarparu gwybodaeth werthfawr ac awgrymiadau ymarferol ar sut i leihau gwastraff ac ailgylchu'n fwy effeithiol. Bydd cyfle i breswylwyr ddysgu am fanteision amgylcheddol ailgylchu, yn enwedig gwastraff bwyd, a sut y gallant gyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy.

Er bod ymchwil yn dangos, ein bod ni'n genedl o ailgylchwyr, mae llawer ohonom yn cyfaddef ein bod weithiau'n parhau i daflu eitemau a ddylai gael eu hailgylchu, yn enwedig bwyd. Gyda chyfradd ailgylchu bresennol ledled y sir o 68.5% mae trigolion Powys yn amlwg yn gwneud eu rhan, ond 70% yw targedau statudol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf, felly mae'n fwy pwysig fyth ein bod ni i gyd yn dod at ein gilydd i ymdrechu'n galetach. 

"Rydym wrth ein boddau yn dod â'r sioeau teithiol hyn i'n cymunedau yn ystod Wythnos Ailgylchu 2024," meddai'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Ein nod yw ysbrydoli a rhoi gwybod i breswylwyr am bwysigrwydd ailgylchu, yn enwedig ein gwastraff bwyd, sy'n aml yn cael ei daflu i ffwrdd gyda'n sbwriel yn hytrach na chael ei ailgylchu bob wythnos.

"Byddwn yn annog pawb i ymweld â'r sioeau teithiol, gofyn cwestiynau a dysgu rhywfaint o awgrymiadau ymarferol a fydd yn eich helpu i ailgylchu'n fwy effeithlon. Gyda'n gilydd, gallwn greu dyfodol glanach, gwyrddach i'n cymuned a chael effaith gadarnhaol ar ein hamgylchedd."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu