Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Cefnogi Gofalwyr yn y gweithle

Images of people caring for family with the employers for carers and powys council logos

9 Hydref 2024

Images of people caring for family with the employers for carers and powys council logos
Mae Cyngor Sir Powys bellach yn aelod gweithgar o Gyflogwyr i Ofalwyr (EfC) Cymru.

Yn ôl Gofalwyr Cymru, bob dydd mae 12,000 o bobl yn y DU yn dod yn Ofalwyr i gefnogi'r rhai sy'n anabl, yn hŷn neu'n sâl ac ychydig iawn sy'n gwybod ble i gael gwybodaeth a chymorth.

Mae'r Cyngor wedi ymuno â'r cynllun i greu gweithle cynhwysol lle mae Gofalwyr yn cael eu cydnabod, eu parchu a'u cefnogi.
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet dros Bowys Gysylltiedig: "Yn ein harolwg staff diweddaraf, dywedodd 117 o'r 971 o ymatebwyr wrthym eu bod yn ystyried eu hunain yn Ofalwr, a dywedodd 74% o'r 117 wrthym nad yw eu rheolwr llinell yn gwybod am eu cyfrifoldebau gofalu.

"Dros y misoedd nesaf rydym yn cynllunio amrywiaeth o sesiynau gwybodaeth a chymorth i reolwyr a staff, a byddwn yn rhannu gwybodaeth ddefnyddiol drwy gydol y flwyddyn. Bydd gennym hefyd Hyrwyddwr Gofalwyr pwrpasol yn y gweithle a fydd yn brif bwynt cyswllt i staff."

"Rydym yn cydnabod y gall fod yn anodd gweithio a bod yn ofalwr, ac felly drwy arwain drwy esiampl, rydym yn gobeithio annog cyflogwyr lleol eraill i wneud yr un fath, gan helpu i gadw gweithwyr medrus ledled Powys."

Dywedodd Richard Meade, Cyfarwyddwr y Gwledydd Datganoledig, Carers UK: "Rydym mor falch bod Cyngor Sir Powys wedi ymuno â Chyflogwyr i Ofalwyr (EfC) Cymru.  Bydd y dewis i ymuno â rhaglen aelodaeth EfC Cymru yn cefnogi staff sydd â chyfrifoldebau gofalu, mewn cyfnod a all fod yn heriol, i gydbwyso gwaith a gofal.  
"Yn ogystal, gan weithio gyda Chyngor Sir Powys, byddwn yn helpu i godi ymwybyddiaeth o faterion sy'n effeithio ar ofalwyr ledled Cymru a chymorth i gyrraedd gofalwyr ar draws gwahanol gymunedau."

Am fwy o wybodaeth, cyngor a chymorth 
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn Ofalwr di-dâl: 

Os ydych yn gyflogwr, a bod gennych ddiddordeb yng nghynllun Cyflogwyr i Ofalwyr (EfC), ewch i: www.employersforcarers.org/about-us/wales-hub/ 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu