Toglo gwelededd dewislen symudol

Sefydlu estyniad i fynwent yn y Gelli Gandryll

Image of four men standing at the new extension in Hay on Wye cemetery

11 Hydref 2024

Image of four men standing at the new extension in Hay on Wye cemetery
Mae mynwent newydd wedi ei sefydlu yn ne Powys diolch i gydweithrediad rhwng y cyngor sir a'r cyngor tref.

Cafodd yr estyniad i'r fynwent bresennol yn y Gelli Gandryll ei ddatblygu ar lain o dir gyfagos gan fod y fynwent wreiddiol yn llawn ar ôl ei hagor ym 1875.

Fel rhan o'r cydweithio, datblygwyd yr erw o dir gan Gyngor Tref y Gelli Gandryll, tra bydd Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am ei gweithredu o ddydd i ddydd ynghyd â'r gwaith cynnal a chadw.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet  ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu datblygu mynwent newydd, a fydd yn darparu lle claddu i bobl y Gelli Gandryll am dros 75 mlynedd.

"Ni fyddai'r datblygiad hwn wedi bod yn bosibl oni bai am ein cydweithrediad â Chyngor Tref y Gelli Gandryll a'r cynghorydd sir lleol a hoffwn ddiolch iddynt am ein helpu i gynnal y gwasanaeth pwysig hwn i'r dref."

Dywedodd y Cyng Fiona Howard o Gyngor Tref y Gelli Gandryll "Mae'r cyngor tref yn hapus iawn bod yr estyniad mawr ei angen bellach ar agor. Mae hyn o ganlyniad i gydweithio rhyngom ni â Chyngor Sir Powys a gwaith caled yr holl gynghorwyr oedd ynghlwm â'r holl beth."

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gadw llain, cysylltwch ag Iechyd yr Amgylchedd drwy e-bostio public.protection@powys.gov.uk neu dros y ffôn ar 01597 827467.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu