£4.59m ar gyfer 6 phrosiect i wella cymunedau ac adeiladau
14 Hydref 2024
Cafodd y dyfarniadau eu gwneud gan Fwrdd Partneriaeth Lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys, gyda chefnogaeth Gwasanaeth Economi a Hinsawdd Cyngor Sir Powys, o dan ei thema Cymunedau a Lle.
Dyma'r prosiectau llwyddiannus:
- Datgarboneiddio Neuaddau Cymunedol, £1,717,559, i Adran Eiddo Cyngor Sir Powys, i weithio gyda 18 o neuaddau cymunedol i leihau eu defnydd o ynni ac ôl troed carbon.
- Ailadeiladu Sylfeini Cymunedol, £1,717,257, i Gymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys (PAVO), ar gyfer ail gam cynllun sy'n cefnogi rheolwyr adeiladau cymunedol i'w gwneud yn fwy hunangynhaliol. (Gan gynnwys gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan.)
- Cynllun Pontio a Chydnerthedd i gefnogi Gwasanaeth y Celfyddydau a Diwylliant, £687,999, i Wasanaethau Diwylliannol Cyngor Sir Powys, am grantiau i gefnogi sefydliadau a fethodd â sicrhau cefnogaeth lluos-flwydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn 2023.
- Y Gymraeg ym Mhowys, £250,000, i Wasanaethau Addysg a'r Gymraeg Cyngor Sir Powys, i hyrwyddo cynlluniau'r cyngor ar gyfer y Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg, cyfleoedd recriwtio i siaradwyr Cymraeg a chefnogaeth iaith Gymraeg i fusnesau yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.
- Cydnerthedd Llifogydd Eiddo, £200,000 arall, i Wasanaeth Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Ailgylchu Cyngor Sir Powys, ar gyfer cynllun grant i helpu aelwydydd sydd wedi cael eu difrodi gan ddŵr llifogydd i ddod yn fwy cadarn yn y dyfodol.
- Effeithlonrwydd Ynni a Datgarboneiddio, £12,999 pellach, i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ar gyfer prosiect sy'n cyflawni biliau ynni llai ac allyriadau CO2 ar gyfer adeiladau cymunedol.
"Ein hamcanion o dan y thema Cymunedau a Lle yw cryfhau ein gwead cymdeithasol a meithrin ymdeimlad o falchder a pherthyn lleol, ac adeiladu cymdogaethau cadarn, iach a diogel," meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet y cyngor dros Bowys Fwy Llewyrchus a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Lleol SPF Powys.
I gael rhagor o wybodaeth am SPF y DU ym Mhowys, ewch i: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU neu e-bostiwch: ukspf@powys.gov.uk
Bwrdd Partneriaeth Lleol SPF Powys sy'n gyfrifol am benderfynu sut y dylid gwario'r ychydig dros £26 miliwn yn yr arian SPF a ddyrannwyd i Bowys ar gyfer 2022-25, gan Lywodraeth y DU.
Mae'r bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Sir Powys, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Grŵp Colegau NPTC, Busnes Cymru, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol y Canolbarth, Twristiaeth y Canolbarth, Grŵp Gweithgynhyrchu'r Canolbarth, Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys, CFfI Cymru, NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Siambrau Cymru, ac Un Llais Cymru.