Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Dymchwel fflatiau er mwyn adeiladu cartrefi cyngor newydd

Image of a mechanical shovel with a pile of construction debris in the background

14 Hydref 2024

Image of a mechanical shovel with a pile of construction debris in the background
Bydd cynlluniau cyffrous i adeiladu cartrefi cyngor newydd yn cyrraedd carreg filltir bwysig yn ddiweddarach y mis hwn pan fydd gwaith i ddymchwel pedwar bloc o fflatiau cyfredol yn dechrau, meddai'r cyngor sir.

Bydd Cyngor Sir Powys yn goruchwylio'r gwaith o ddymchwel y bloc o fflatiau yn Ael Y Bryn / Pen y Bryn yn Ystradgynlais gyda'r gwaith yn dechrau ddydd Llun, 21 Hydref.

Mae'r gwaith dymchwel yn cael ei wneud fel rhan o ddatblygiad cyffrous i wneud lle i 16 o gartrefi newydd, un ystafell wely a fydd yn cael eu hadeiladu gan Dîm Datblygu Tai'r cyngor.

Nid yw'r pedwar bloc presennol o fflatiau yn diwallu'r angen presennol am dai, felly maen nhw'n cael eu dymchwel i wneud lle i'r fflatiau newydd, y mae galw mawr amdanynt.

Bydd Gwaith Dymchwel Prichards yn gwneud y gwaith ar ran y cyngor rhwng 8am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener gyda gwaith posibl ar fore Sadwrn os oes angen. Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Ionawr 2025.

Yn ystod y cyfnod dymchwel, bydd yr ardal yn safle brysur gyda cherbydau mawr sydd angen mynediad.  Mae'r cyngor yn gofyn i drigolion lleol gymryd gofal ychwanegol pan fyddant yn yr ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Rwy'n falch iawn bod ein cynlluniau i adeiladu cartrefi o ansawdd uchel, sy'n effeithlon o ran ynni i'w rhentu yn Ystradgynlais, yn cymryd cam pwysig ymlaen.

"Hoffwn ddiolch i drigolion a'r cynghorwyr lleol sydd wedi ymgysylltu â ni i sicrhau ein bod ni'n cyflawni hyn yn gywir.

"Mae darparu cartrefi cyngor newydd yn Ystradgynlais yn ymrwymiad ariannol mawr gan y cyngor a fydd yn helpu i fynd i'r afael â thlodi, cefnogi'r economi leol a chreu cyfleoedd ar gyfer swyddi a hyfforddiant yn y gymuned.

"Pan gaiff ei adeiladu, bydd ein datblygiad newydd yn cynnwys mannau gwyrdd, gerddi a pharcio ceir i breswylwyr. Mae hyn yn rhan o raglen fuddsoddi hirdymor a fydd yn gwella ansawdd bywyd pobl sy'n byw yn Ael Y Bryn a Phen Y Bryn.

"Mynd i'r afael â'r argyfwng tai ym Mhowys yw fy mhrif flaenoriaeth. Bydd y cynnig cyffrous hwn yn ein helpu i adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i'n cymunedau."

Dywedodd y Cynghorydd Huw Williams, cynghorydd sir lleol Aber-craf ac Ystradgynlais: "Mae'n newyddion gwych y bydd y datblygiad cyffrous hwn yn cyrraedd carreg filltir bwysig gyda'r gwaith dymchwel yn dechrau'n fuan.

"Mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol a fydd yn gwneud gwir wahaniaeth i'r rhai sy'n byw yn yr Ael Y Bryn a Phen Y Bryn. Hir yw pob ymaros, ac rwy'n ddiolchgar i'r cyngor eu bod yn darparu'r tai hyn y mae mawr eu hangen a fydd yn helpu i wella bywydau yn y gymuned hon."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu