Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cynnal a chadw ar wefan Cyngor Sir Powys ddydd Mawrth 15 Hydref

7 prosiect yn cael £1.85m i helpu busnesau i ehangu

A business meeting

15 Hydref 2024

A business meeting
Mae saith prosiect ym Mhowys wedi derbyn cymorth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin gwerth cyfanswm o £1.85 miliwn yn ystod yr wyth mis diwethaf i helpu i hybu buddsoddiad busnes a chreu swyddi.

Gwnaed y dyfarniadau gan Fwrdd Partneriaeth Lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys, â chymorth Gwasanaeth Economi a Hinsawdd Cyngor Sir Powys, o dan ei thema Cefnogi Busnes Lleol.

Dyma'r prosiectau llwyddiannus:

  • Grantiau Twf Busnes Powys, £716,724 ychwanegol, i Wasanaeth Economi a Hinsawdd Cyngor Sir Powys, i gynnal cynllun i helpu busnesau ym Mhowys i ariannu gwaith a fydd naill ai'n creu neu'n diogelu swyddi.
  • Gŵyl y Gelli, £250,000, i Sefydliad Gŵyl y Gelli, i helpu gefnogi Penwythnos y Gaeaf yn y tymor byr ac ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i edrych ar y ffordd orau o sicrhau ei ddyfodol hirdymor.
  • BEACON Canolbarth Cymru, £249,999, i Brifysgol Aberystwyth, ar gyfer prosiect sy'n darparu cymorth a mynediad agored i gyfleusterau, hyfforddiant ac arbenigedd AgriTech/bioburo.
  • NutriReValorise, £248,868, i Brifysgol De Cymru, i helpu sectorau diwydiannol gwledig allweddol, gan gynnwys amaethyddiaeth, i newid i ffyrdd mwy cynhyrchiol o ddelio â gwastraff sy'n llawn maetholion.
  • Paratoi i Dyfu, £195,595, i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, i ddarparu cymorth pwrpasol i arweinwyr ac uwch staff mewn 70 o fusnesau ym Mhowys sydd am gynyddu eu maint o gwmnïau bach i ganolig.
  • Gyrfaoedd Tyfu Canolbarth Cymru, £144,310, i Grŵp Colegau NPTC, ar gyfer ap profiad gwaith y gall ysgolion, colegau a chyflogwyr ym Mhowys ei ddefnyddio, i'w helpu i gysylltu a threfnu lleoliadau i fyfyrwyr.
  • Hwb Effeithlonrwydd Ynni Busnes Canolbarth Cymru, £43,014 ychwanegol, i Asiantaeth Ynni Hafren Gwy, i helpu busnesau bach a chanolig i leihau eu biliau ynni ac allyriadau CO2.

"Ein hamcanion o dan y thema Cefnogi Busnes Lleol yw creu swyddi a hybu cydlyniad cymunedol, hyrwyddo rhwydweithio a chydweithio, a chynyddu buddsoddiad y sector preifat mewn gweithgareddau sy'n gwella twf," meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet y cyngor ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys.

I gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ym Mhowys, ewch i: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU neu e-bostiwch: ukspf@powys.gov.uk

Bwrdd Partneriaeth Lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys sy'n gyfrifol am benderfynu sut y dylid gwario'r ychydig dros £26 miliwn o'r arian Cronfa Ffyniant Gyffredin a ddyrannwyd i Bowys gan Lywodraeth y DU ar gyfer 2022-25.

Mae'r bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Sir Powys, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Grŵp Colegau NPTC, Busnes Cymru, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol y Canolbarth, Twristiaeth y Canolbarth, Grŵp Gweithgynhyrchu'r Canolbarth, Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys, CFfI Cymru, NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Siambrau Cymru, ac Un Llais Cymru.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu