Toglo gwelededd dewislen symudol

5 prosiect yn cael 750k i hybu sgiliau a rhagolygon am swyddi

A group of students chatting

16 Hydref 2024

A group of students chatting
Mae pum prosiect ym Mhowys wedi derbyn cymorth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin sydd werth cyfanswm o £750,000 yn ystod yr wyth mis diwethaf i helpu pobl i ddod o hyd i waith neu sicrhau gwell swyddi.

Cafodd y dyfarniadau eu gwneud gan Fwrdd Partneriaeth Lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys, gyda chefnogaeth Gwasanaeth Economi a Hinsawdd Cyngor Sir Powys, o dan ei thema Pobl a Sgiliau.

Dyma'r prosiectau llwyddiannus:

  • Cyflymu Datgarboneiddio a Chynhyrchiant drwy Hyfforddiant a Sgiliau, £250,000, i Brifysgol Sheffield AMRC Cymru, i ddarparu hyfforddiant mewn technegau gweithgynhyrchu uwch i 80 o weithwyr mewn 16 o gwmnïau.  
  • Trawsnewid Digidol Gwyrdd, £248,287, i Brifysgol Aberystwyth, i ddarparu hyfforddiant i fusnesau Powys sy'n chwilio am fuddsoddiad ar gyfer systemau digidol newydd, neu yn eu comisiynu.
  • Pontio i Gyflogaeth Ystyrlon, £124,183, i Wasanaeth Economi a Hinsawdd Cyngor Sir Powys, ar gyfer canllawiau cyflogaeth, cymorth a mentora i bobl ifanc 16-19 oed. 
  • Hyder Digidol Powys, £99,068, i Cwmpas, ar gyfer prosiect sy'n cynnig cyngor a hyfforddiant cynhwysiant digidol mewn lleoliadau cymunedol a'r cyngor, ac ar gyfer peth offer i'r rhai sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd. 
  • Paratoi ar gyfer Dyfodol Cynaliadwy, £29,462, i Grŵp Colegau NPTC, i gynnig cwrs byr ar Ddyfodol Cynaliadwy yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr sy'n dychwelyd i addysg neu'n ceisio newid gyrfa. 

"Ein hamcanion o dan y thema Pobl a Sgiliau yw hybu sgiliau craidd a chefnogi oedolion i symud ymlaen yn y gwaith, lleihau lefelau anweithgarwch economaidd, cefnogi pobl sydd bellaf o'r farchnad lafur i oresgyn rhwystrau i waith, a chefnogi ardaloedd lleol i ariannu bylchau mewn darpariaeth sgiliau lleol i gefnogi pobl i symud ymlaen yn y gwaith, ac ategu darpariaeth sgiliau oedolion leol," dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Lleol y Gronfa Ffyniant Gyffredin Powys.  

I gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ym Mhowys, ewch i: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU neu e-bostiwch: ukspf@powys.gov.uk

Bwrdd Partneriaeth Lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys sy'n gyfrifol am benderfynu sut y dylid gwario'r ychydig dros £26 miliwn yn arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin a ddyrannwyd i Bowys ar gyfer 2022-25, gan Lywodraeth y DU.

Mae'r bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Sir Powys, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Grŵp Colegau NPTC, Busnes Cymru, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol y Canolbarth, Twristiaeth y Canolbarth, Grŵp Gweithgynhyrchu'r Canolbarth, Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys, CFfI Cymru, NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Siambrau Cymru, ac Un Llais Cymru.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu