Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Mae'n bosibl y bydd Diwrnodau Hyfforddiant Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 21 Hydref a 25 yn effeithio ar amseroedd aros dros y ffôn

4 prosiect yn cael £476k i hybu sgiliau rhifedd oedolion

A maths worksheet and a calculator

17 Hydref 2024

A maths worksheet and a calculator
Mae pedwar prosiect ym Mhowys wedi derbyn cymorth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin gwerth cyfanswm o £476,000 yn ystod yr wyth mis diwethaf i helpu pobl i reoli eu harian a gwella eu llesiant.

Mae'r gwobrau wedi'u gwneud gan Fwrdd Partneriaeth Lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys, gyda chefnogaeth Gwasanaeth Economi a Hinsawdd Cyngor Sir Powys, o dan ei thema Lluosi (gwella sgiliau rhifedd).

Dyma'r prosiectau llwyddiannus:

  • Gwneud Gwahaniaeth ym Mhowys - Rhifedd, £206,672 i Gymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys (PAVO), i gynnal cynllun grant ar gyfer elusennau a grwpiau cymunedol sydd am gynnal cynlluniau sy'n gysylltiedig â mathemateg.
  • Rhifedd y Teulu, £153,480, i Hyfforddiant Cambria, i gynnal cyrsiau ar reoli cyllid y cartref a helpu plant gyda gwaith cartref mathemateg, ar gyfer gweithwyr sgiliau isel a chyflog isel ym Mhowys, yn eu gweithleoedd.
  • MOT arian ar gyfer pobl dros 50 oed, £61,397, i Age Cymru Powys, ar gyfer hyfforddiant rhifedd i oedolion hŷn ym Mhowys, i'w helpu i reoli eu harian, dod o hyd i waith neu aros mewn cyflogaeth a theimlo'n fwy hyderus i ddatrys problemau mathemateg.
  • Mathemateg wyrddach yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen, £54,297, i gynnal cyrsiau i oedolion a fydd yn rhoi hwb i'w hyder wrth ddefnyddio mathemateg wrth ddysgu am ynni, bioamrywiaeth neu adeiladu cynaliadwy.

"Ein hamcanion o dan thema Lluosi (gwella sgiliau rhifedd) yw i oedolion ennill cymwysterau mathemateg neu gymryd rhan mewn cyrsiau rhifedd, er mwyn i gyflogwyr adrodd am lai o fylchau mewn sgiliau rhifedd, a chynnydd yng nghyfran yr oedolion sy'n symud ymlaen i gyflogaeth neu addysg barhaus, a mwy o rifedd oedolion ar draws y boblogaeth yn gyffredinol," meddai'r Cynghorydd David Selby,  Aelod Cabinet y cyngor dros Bowys Fwy Llewyrchus a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Lleol y Gronfa Ffyniant Gyffredin Powys.

I gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ym Mhowys, ewch i: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU neu e-bostiwch: ukspf@powys.gov.uk

Bwrdd Partneriaeth Lleol SPF Powys sy'n gyfrifol am benderfynu sut y dylid gwario'r ychydig dros £26 miliwn o arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin a ddyrannwyd i Bowys ar gyfer 2022-25, gan Lywodraeth y DU.

Mae'r bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Sir Powys, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Grŵp Colegau NPTC, Busnes Cymru, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol y Canolbarth, Twristiaeth y Canolbarth, Grŵp Gweithgynhyrchu'r Canolbarth, Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys, CFfI Cymru, NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Siambrau Cymru, ac Un Llais Cymru.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu