Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Gwaith clirio'n digwydd wrth i ffyrdd Powys barhau i gael eu heffeithio gan law trwm diweddar

Image of the B4520 near Upper Chapel that was damaged by flood water

18 Hydref 2024

Image of the B4520 near Upper Chapel that was damaged by flood water
Mae'r cyngor sir wedi dweud bod y glaw trwm a fu ym Mhowys yn gynharach yr wythnos hon yn parhau i gael effaith ar ffyrdd.

Cafodd y sir ei tharo'n galed gan y glaw eithriadol o drwm a ddisgynnodd ddydd Mercher 17 Hydref ac yn ystod oriau mân fore Iau.

Achoswyd problemau sylweddol gyda nifer o ffyrdd ar gau oherwydd llifogydd gyda thirlithriadau a choed wedi syrthio yn achosi mwy o broblemau ac yn effeithio ar y rhwydwaith ffyrdd.  Gorlifwyd draeniau a cheuffosydd oherwydd faint o law a ddisgynnodd yn y sir mewn ychydig oriau.

Mae rhai ffyrdd yn parhau i fod ar gau oherwydd llifogydd ac ni fyddant yn ailagor nes bod y dŵr wedi cilio. Mae dwy ffordd, y B4393 ger Llansantffraid a'r B4520 ger Capel Uchaf, ar agor dan reolaeth traffig wedi iddynt gael eu difrodi gan ddŵr llifogydd.

Roedd Tîm Priffyrdd Cyngor Sir Powys, gyda chefnogaeth y gwasanaethau brys, ar flaen y gad yn y gwaith o ymateb i wahanol ddigwyddiadau yn gysylltiedig â llifogydd ledled y sir.

Mae'r tîm bellach yn gwneud gwaith clirio ar ôl y llifogydd ac yn cael gwared ar falurion o ddraeniau a cheuffosydd yn dilyn y tywydd garw.

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Rwyf am ganmol ein staff am eu gwaith caled yn ymateb i nifer o ddigwyddiadau yn dilyn y glaw trwm eithriadol ar draws y sir gyfan.

"Mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar ein rhwydwaith ffyrdd a byddwn yn ei asesu ac yn gwneud y gwaith atgyweirio angenrheidiol dros y dyddiau nesaf.

"Cafodd llawer o'r ceuffosydd a'r cilfachau a orlifodd eu llethu'n llwyr mewn ychydig oriau. Mae'n amlwg bod ein seilwaith draenio mewn llawer o leoliadau yn methu ag ymdopi ag effaith newid yn yr hinsawdd.

Os cafodd eich eiddo ei effeithio gan lifogydd, gwnewch yn siwr eich bod yn rhoi gwybod amdano yma Rhoi gwybod am lifogydd. Neu e-bostiwch land.drainage@powys.gov.uk

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu