Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Mae'n bosibl y bydd Diwrnodau Hyfforddiant Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 21 Hydref a 25 yn effeithio ar amseroedd aros dros y ffôn

A oes gennych brosiect twristiaeth werdd sydd angen ei ariannu?

Two people cycling in the countryside

21 Hydref 2024

Two people cycling in the countryside
Mae sefydliadau sydd â chynlluniau ar gyfer gwelliannau i seilwaith twristiaeth ar raddfa fach werdd ym Mhowys yn cael eu hannog i gysylltu â'r cyngor sir.

Mae'n bwriadu cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am hyd at werth £300,000 o gynlluniau Y Pethau Pwysig wedi'u hariannu ar gyfer 2025-27.

Dim ond awdurdodau lleol (cynghorau sir) ac awdurdodau'r parciau cenedlaethol all wneud cais am yr arian felly, mae Cyngor Sir Powys yn ceisio cyflwyno 'cais ymbarél' ar ran sawl sefydliad ar gyfer amrywiaeth o brosiectau ym Mhowys.

Gellir defnyddio'r arian i dalu hyd at 80% o gost unrhyw waith arfaethedig a fydd yn helpu i leihau allyriadau carbon. Rhaid i brosiectau hefyd fodloni un o'r tri maen prawf hyn:

  1. Lleddfu pwysau mewn man prysur o ran twristiaeth.
  2. Gwella hygyrchedd i ymwelwyr ag anghenion ychwanegol.
  3. Helpu ymwelwyr i ddysgu mwy am gynnyrch, hanes neu ddiwylliant lleol (gan gynnwys y Gymraeg).

Dylai unrhyw sefydliadau a hoffai fod yn rhan o gais cyfunol Powys lenwi ffurflen wybodaeth am y prosiect cyn 9am ddydd Llun 4 Tachwedd: tourism@powys.gov.uk

"Rydym am ddod o hyd i'r cynlluniau seilwaith twristiaeth werdd gorau ym Mhowys i'w cynnwys yn y cais hwn i Lywodraeth Cymru," meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus, Cyngor Sir Powys. "Mae ymwelwyr yn hynod bwysig i economi'r sir. Rydym am roi croeso cynnes iddynt a'u helpu i fwynhau Powys yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl.

"Bydd pob cynnig arfaethedig yn cael ei asesu ar eu haddasrwydd, eu gallu i gyflawni a'r budd disgwyliedig i economi a phrofiad ymwelwyr Powys."

Llwyddodd Cyngor Sir Powys i sicrhau £300,000 ar gyfer 10 prosiect yn rownd ddiwethaf cyllid Y Pethau Pwysig 2023-25. Roedd hyn yn cynnwys £37,000 ar gyfer ailwampio cyfleusterau yn hostel YHA ger Aberhonddu a £53,000 i wella mynediad at wahanol rannau o Gwm Elan a gwybodaeth amdanynt.

Cronfa Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru: https://diwydiant.croeso.cymru/cy/cefnogi-chi/gwybodaeth-chyngor-gyllid-ar-gael-ar-gyfer-busnesau-twristiaeth

Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau am gais Powys am gyllid at: tourism@powys.gov.uk

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu