Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith i greu hwb aml-asiantaethol newydd ar gyfer Aberhonddu wedi'i gwblhau

The renovated interior of Tŷ Brycheiniog

22 Hydref 2024

The renovated interior of Tŷ Brycheiniog
Mae gwaith i droi canolfan alwadau segur yn Aberhonddu yn swyddfeydd i Gyngor Sir Powys ac eraill, fel rhan o hwb aml-asiantaethol newydd, wedi'i gwblhau.

Mae gwaith adnewyddu Bbi (Beacons Business Interiors) i'r y cyngor wedi cynnwys:

  • Adnewyddu'r ail lawr i greu swyddfa ar gyfer staff y cyngor, gyda lloriau di-garbon a goleuadau LED, gyda rheolaethau deallus.
  • Ad-drefnu'r llawr cyntaf i ganiatáu ar gyfer aml-ddefnydd gan wahanol asiantaethau.
  • Gosod lifft i deithwyr.

Mae'n rhan o brosiect mawr, gyda chefnogaeth £3.5 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU, sydd wedi'i ddefnyddio i brynu'r adeilad ym Mharc Menter Aberhonddu, a elwir bellach yn Dŷ Brycheiniog, ac i dalu am ei adnewyddu.

Mae staff Cyngor Sir Powys yn debygol o symud o Neuadd Brycheiniog i ail lawr Tŷ Brycheiniog yn gynnar yn 2025. Bydd lloriau eraill yn cael eu defnyddio gan bartneriaid o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

"Mae'r datblygiad hwn wedi creu adeilad mwy ymarferol, cost-effeithiol i'r cyngor ei ddefnyddio yn y rhan hon o'r sir," meddai'r Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet y cyngor ar gyfer Powys Gysylltiedig, "gan wneud ein darpariaeth o wasanaethau yn fwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae hefyd yn ein helpu i leihau ein hôl troed carbon."

Ychwanegodd y Cyng David Selby, Aelod Cabinet y cyngor dros Bowys Fwy Llewyrchus: "Bydd symud i'r amgylchedd gwaith newydd, mwy hyblyg hwn yn ein helpu i gynnal perthnasoedd cadarnhaol gyda'n partneriaid a rhyddhau safle datblygu y mae mawr ei angen yn Aberhonddu, yn Neuadd Brycheiniog ar Ffordd Cambria.

"Rwyf hefyd wedi cael gwybod bod Bbi wedi bod yn bleser i weithio gyda nhw: n drefnus, gyda gwaith o ansawdd da a phroffesiynol drwy'r holl broses."

Creodd y prosiect gyfle am swydd i brentis a defnyddiwyd Tŷ Brycheiniog ar gyfer ymweliadau safle gan fyfyrwyr gwaith coed o Goleg Bannau Brycheiniog, Grŵp NPTC.

Dywedodd Stephen Price, Cyfarwyddwr Bbi: "Hoffem estyn ein diolch i Gyngor Sir Powys am eu partneriaeth a'u cefnogaeth drwy gydol y broses hon. Chwaraeodd y cydweithio cadarnhaol rôl bwysig yn llwyddiant y prosiect hwn."

Sicrhawyd yr arian gan Lywodraeth y DU ar gyfer Tŷ Brycheiniog gan Wasanaeth Economi a Hinsawdd Cyngor Sir Powys a rheolwyd y gwaith adeiladu gan y Tîm Eiddo Strategol.

LLUN: Tu mewn Tŷ Brycheiniog wedi ei adnewyddu.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu