Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Dewch i Fwynhau Noson Tân Gwyllt eco-gyfeillgar

Image of people holding sparklers

28 Hydref 2024

Image of people holding sparklers
Mae Noson Tân Gwyllt ar y gorwel ac anogir preswylwyr i gadw'n ddiogel, bod yn gyfrifol a mwynhau'r dathliadau'n gynaliadwy eleni.

Dyma rai ffyrdd y gallwch gael hwyl yn ddiogel ar 5 Tachwedd, gan leihau'r effaith gaiff eich noson ar yr amgylchedd:

Ewch i arddangosiad gyhoeddus - Mae arddangosiadau sydd wedi eu trefnu bron bob amser yn fwy trawiadol ac yn rhatach na phrynu ein tân gwyllt ein hunain. Mae hefyd yn ffordd fwy diogel o fwynhau'r ŵyl ac mae'n llai tebygol o beri gofid i anifeiliaid anwes y gymdogaeth leol a'r trigolion bregus. 

Chwiliwch am dân gwyllt eco-gyfeillgar - Os ydych yn cynnal eich arddangosiad eich hun, ceisiwch chwilio am rai o'r nifer cynyddol o opsiynau tân gwyllt â sŵn isel mwy cynaliadwy. Sicrhewch eich bod yn clirio'r holl sbwriel ar ôl gorffen. Prynwch dân gwyllt gan fanwerthwr cofrestredig yn unig a sicrhewch bod nod CE ar y tân gwyllt. Cadwch draw oddi wrth lusernau awyr - maen nhw wedi cael eu gwahardd ar unrhyw dir sy'n eiddo i'r cyngor ac maen nhw'n peri risg mawr o dân ac yn peryglu bywyd gwyllt wrth iddynt lanio.

Dangoswch barch - Rhowch ddigon o rybudd i'ch cymdogion er mwyn iddynt fod yn barod am y digwyddiad a pheidiwch byth â chynnau tân gwyllt yn agos at dda byw. Cofiwch na allwch danio tân gwyllt rhwng 11pm a 7am, er bod y cyrffyw ar Noson Tân Gwyllt yn cael ei ymestyn tan hanner nos.

Dylech gael gwared ar dân gwyllt yn ddiogel - Dylech socian unrhyw dân gwyllt, hen neu 'farw' a sbâr mewn dŵr am 48 awr, rhowch nhw mewn bag plastig a'u hychwanegu'n ofalus at eich bin sbwriel cyffredinol. Yn anffodus, mae'r cemegau a ddefnyddir yn y ffrwydron yn golygu na ellir eu hailgylchu. 

Byddwch yn ofalus beth rydych chi 'n ei losgi - Os ydych chi'n cael coelcerth, byddwch yn ofalus beth rydych chi'n ei roi arno. Dylech losgi pren heb ei drin yn unig (nid pren sydd wedi'i baentio neu sydd â farnais) a gwastraff gardd, a pheidiwch ag anghofio chwilio am ddraenogod ac anifeiliaid eraill cyn i chi ei danio! Cofiwch beidio byth â rhoi lludw poeth mewn bin olwynion. 

Partïon di-wastraff - Os ydych yn cynnal parti Noson Tân Gwyllt, gallwch dorri lawr ar wastraff drwy newid platiau a chwpanau untro a chyllyll a ffyrc plastig am wydrau, llestri a chyllyll a ffyrc go iawn (neu o leiaf rai y gellir eu hailddefnyddio). Mae modd casglu ac ailgylchu poteli cwrw a gwin, caniau a photeli diodydd plastig. Yn olaf, peidiwch ag anghofio'r bwyd - edrychwch ar wefan Caru Bwyd Casáu Gwastraff am syniadau blasus ar gyfer bwydydd parti Noson Tân Gwyllt sy'n defnyddio pethau yn yr oergell gan adael digon ar ôl i'w fwyta i ginio y diwrnod canlynol!

"Mae Noson Tân Gwyllt wastad yn achlysur gwych i lapio'n gynnes a mwynhau'r dathliadau gyda ffrindiau a theulu." Meddai'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Ac er ein bod ni eisiau i bawb gael hwyl, hoffem i chi i gyd ei wneud yn ddiogel ac yn gynaliadwy.

"Mae llawer o ffyrdd y gallwch wneud dewisiadau 'gwyrddach' wrth gynllunio noson gymdeithasol Tân Gwyllt pan ddaw pawb at ei gilydd. P'un a ydych yn mynd i ddigwyddiad wedi'i drefnu i gwtogi ar nifer y tân gwyllt sy'n cael eu rhyddhau i'r awyr neu drwy sicrhau eich bod yn ailgylchu eich holl baraffernalia parti sydd dros ben, gallwn ni i gyd wneud ein rhan i sicrhau ein bod yn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd lleol.

"Mwynhewch y noson a chadwch yn ddiogel."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu