Argymhellion i helpu i gadw anifeiliaid anwes a cheffylau Powys yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt
28 Hydref 2024
Mae tymor tân gwyllt yn dechrau cyn Noson Tân Gwyllt ac yn parhau tan ddathliadau'r Flwyddyn Newydd, ond gellir cymryd camau ymlaen llaw i helpu i gadw eu hanifeiliaid yn dawel.
Mae Tîm Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Powys yn cynghori perchnogion i gymryd camau cyn y tymor tân gwyllt i osgoi dychryn eu hanifeiliaid gyda fflachiadau golau sydyn a chleciau uchel.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Powys Ddiogelach: "Bydd cyfleoedd gwych i gael hwyl y tymor tân gwyllt hwn ym Mhowys ond rhaid i ni beidio ag anghofio y gallant fod yn frawychus i lawer o anifeiliaid, fel anifeiliaid anwes a cheffylau. Gall y cleciau uchel, a fflachiadau llachar o olau achosi pryder gwirioneddol.
"Os ydych yn bwriadu cynnal eich digwyddiad eich hun, byddwch yn ystyriol o'ch cymdogion a'u hanifeiliaid yn eich dewis o dân gwyllt a ble rydych yn eu defnyddio.
"Rydym yn annog perchnogion anifeiliaid anwes a cheffylau i baratoi ar gyfer y tymor tân gwyllt a dilyn y cyngor i gadw eu hanifeiliaid yn ddiogel dros yr wythnosau nesaf."
Cyngor ar sut i gadw eich anifeiliaid anwes yn ddiogel:
- Cadwch gŵn a chathod y tu mewn bob amser pan fo tân gwyllt yn cael ei tanio
- Cau pob ffenestr a drws a blocio fflapiau cathod
- Sicrhau bod cŵn yn gwisgo rhyw fath o ID
- Paratowch ffau ar gyfer eich anifail anwes lle gall deimlo'n ddiogel a chyfforddus
- Gadewch i'ch anifail anwes symud o gwmpas, udo, mewian a chuddio os yw'n dymuno gwneud hynny
- Ceisiwch beidio â chysuro anifeiliaid anwes gan y byddant yn meddwl eich bod chi'n poeni hefyd
- Dylech osgoi gadael anifeiliaid anwes ar ben eu hunain tra bo tân gwyllt yn cael eu tanio
- Peidiwch â chlymu eich ci y tu allan wrth i dân gwyllt gael eu tanio
- Peidiwch byth â mynd â'ch ci i arddangosfa tân gwyllt.
Cyngor i berchnogion ceffylau gan Lywodraeth Cymru:
- Darganfyddwch amseroedd a lleoliadau digwyddiadau tân gwyllt sydd wedi eu trefnu yn eich ardal chi. Ni ddylai trefnwyr digwyddiadau gynllunio tân gwyllt ger ceffylau mewn caeau na stablau
- Tendiwch ar eich ceffylau fel arfer a'u cadw mewn amgylcheddau diogel a chyfarwydd. Gallai hyn olygu eu gadael y tu allan yn ystod y tân gwyllt os mai dyma yw eu trefn arferol. Os oes arnynt ofn gwirioneddol o dân gwyllt, efallai y byddwch am ystyried eu stablu dros nos
- Cadwch yn ddiogel a chadwch lygad am geffylau sydd wedi dychryn er mwyn osgoi anaf
- Y bore ar ôl tân gwyllt, mae'n bwysig gwneud archwiliad iechyd ar eich ceffyl er mwyn sicrhau eu llesiant a gwirio am unrhyw anafiadau gweladwy.
Am gyngor defnyddiol pellach, ewch i wefan yr RSPCA a chwiliwch 'tân gwyllt' neu wefan y Groes Las a chwiliwch 'tân gwyllt ac anifeiliaid anwes'.