Annog trigolion i wirio nwyddau cosmetig am gemegyn gwaharddedig
28 Hydref 2024
Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Powys yn gofyn i breswylwyr gael gwared ar unrhyw nwyddau cosmetig sy'n cynnwys y cynhwysyn gwaharddedig.
Mae hyn yn dilyn nodyn atgoffa a gyhoeddwyd gan Swyddfa Diogelwch Cynnyrch a Safonau (OPSS) Llywodraeth y DU i ddiwydiant cosmetig y DU y dylid bod wedi tynnu unrhyw gynnyrch sy'n cynnwys Lilial i ffwrdd o gael ei werthu.
Roedd Lilial, a elwir hefyd yn Butylphenyl methylpropional, yn cael ei ddefnyddio'n gyffredin fel persawr arogl blodau mewn gwahanol nwyddau cosmetig, gan gynnwys persawr, jel cawod, a diaroglyddion. Oherwydd ei gysylltiad â niwed i'r system atgenhedlu, mae gwerthu cynhyrchion sy'n cynnwys Lilial wedi bod yn anghyfreithlon ym Mhrydain Fawr ers mis Rhagfyr 2022.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Diogelwch ein trigolion yw ein prif flaenoriaeth. Rydym yn annog pawb ym Mhowys i wirio eu nwyddau cosmetig a chael gwared ar unrhyw rai sy'n cynnwys Lilial. Drwy wneud hynny, gallwn helpu i sicrhau iechyd a lles ein cymuned."
Os ydych wedi prynu cynhyrchion o'r fath ers 2022, rhowch wybod i Gyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 neu 0808 223 1144 i siarad â chynghorydd sy'n siarad Cymraeg.