Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfleoedd ar Fframwaith Gwasanaethau Peirianneg Sifil De-orllewin a Chanolbarth Cymru

Framework

30 Hydref 2024

Framework
 Mae partïon sydd â diddordeb yn cael eu gwahodd i dendro am Fframwaith Gwasanaethau Peirianneg Sifil Rhanbarthol newydd ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Ceredigion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Powys a Chyngor Abertawe ('y Cynghorau') yn dymuno penodi Ymgynghorwyr addas eu cymhwyster i gefnogi cyflawni prosiectau adeiladu cysylltiedig â pheirianneg sifil ar draws y rhanbarth.

Cyfanswm gwerth y Fframwaith rhanbarthol yw oddeutu £100 miliwn a bydd ar waith rhwng 2025 a 2028 gydag opsiwn i'w ymestyn am hyd at 12 mis ychwanegol.

Bydd y Fframwaith yn cynnwys dwy lot ar gyfer Gwasanaethau Peirianneg Sifil; yn amrywio o wasanaethau ymgynghori arbenigol gwerth bach i wasanaethau amlddisgyblaethol mewn sectorau fel priffyrdd, strwythurau a pheirianneg trafnidiaeth, gan gynnwys rheoli prosiectau, cyngor technegol, dylunio, arolygon technegol, rheoli adeiladu a rheoli gwasanaethau.

Mae'r Cynghorau yn Rhanbarth De-orllewin a Chanolbarth Cymru wedi ymrwymo i gyfrannu at lesiant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol eu cymunedau. Yn ogystal â chynnig cyfle i Ymgynghorwyr lleol wneud cais am waith, elfen allweddol o'r Fframwaith fydd cynnwys Ardoll Sgiliau Technegol, ar sail y comisiynau ddyfernir gan bob Cyngor unigol. Bydd yr ardoll yn cael ei defnyddio gan bob Cyngor sy'n cymryd rhan i ariannu a chefnogi hyfforddi eu prentisiaid peirianneg mewnol eu hunain. Hefyd bydd y Cynghorau'n ceisio hyrwyddo cyfleoedd ychwanegol, cynaliadwy ehangach.

Lot newydd ar gyfer Gwasanaethau Ymgynghori Arbenigol

Un ychwanegiad pwysig at y Fframwaith newydd yw cynnwys lot ar gyfer gwasanaethau ymgynghori arbenigol, hyd at £50,000 mewn gwerth. Mae'r Cynghorau am annog busnesau bach a chanolig i wneud cais am le ar y lot hon i ddarparu adnoddau ychwanegol iddynt ar gyfer gwasanaethau megis (ond heb fod yn gyfyngedig i) ecoleg, arolygon strwythurol, tirweddu, hydroleg, arolygon teipograffig, dylunio goleuadau stryd, ac ati.

Mae cymorth wrth law i fusnesau bach a chanolig wneud cais am le ar y Fframwaith. Ewch i wefan Busnes Cymru i gael rhagor o wybodaeth - Cefnogi busnesau yng Nghymru | Busnes Cymru

Bydd Busnes Cymru hefyd yn cynnal 'Gweminar Tendro Byw' am ddim, yn benodol ar gyfer y rhai sy'n tendro ar gyfer y Fframwaith hwn, i'w gynnal ar 1 Tachwedd 2024, ewch i wefan Busnes Cymru i gofrestru ar gyfer y digwyddiad.

Bydd Busnes Cymru yn cynnig cyngor a chanllawiau ar gyrchu'r e-dendr a chyflwyno cais. Mae cofrestru yn hanfodol er mwyn cadw lle ar y gweminar, felly, i gofrestru, cysylltwch â Busnes Cymru ar 01656 868500 neu drwy e-bostio: trading@businesswales.org.uk

I gael rhagor o fanylion am y Fframwaith a sut i gyrchu'r tendr a'r dogfennau cysylltiedig, yn ogystal â chyflwyno cais, gweler Hysbysiad y Contract ar wefan GwerthwchiGymru -

https://www.sell2wales.gov.wales/search/show/search_view.aspx?ID=OCT493628

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu