Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd llinellau ffôn Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes A llinellau Dyfarniadau ar gau 5 Rhagfyr oherwydd hyfforddiant staff.

Ailystyried Adolygiad Meysydd Parcio

Image of parked cars

7 Tachwedd 2024

Image of parked cars
Mae aelodau cabinet Cyngor Sir Powys wedi cytuno i ailystyried canfyddiadau'r grŵp adolygu trawsbleidiol sydd â'r dasg o adolygu trefniadau parcio ceir y sir. 
 
Ar ôl cwblhau'r adolygiad, trafodwyd adroddiad y cabinet gydag argymhellion yn fanwl gan bwyllgor craffu'r cyngor fis diwethaf. Mae aelodau cabinet y cyngor wedi cytuno bod angen iddynt gymryd peth amser i fyfyrio ar sylwadau'r pwyllgorau craffu ac ailystyried yr argymhellion cyn cymryd unrhyw gamau pellach. 
 
Cyn bo hir, bydd aelodau'r Cabinet yn cynnal grŵp ffocws i helpu i ddiffinio'n glir ffordd ymlaen sy'n galluogi trigolion ac ymwelwyr i barcio'n ddiogel ac yn gynaliadwy ym meysydd parcio Powys ac sy'n gyraeddadwy o fewn cyllidebau'r cyngor. 
 
"Rydym yn gwerthfawrogi bod trefniadau parcio ceir yn y sir yn bwnc emosiynol iawn i'n trigolion a'n busnesau." Eglurodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach  
 
"Mae'n bwysig i ni ystyried yr holl opsiynau a derbyn yr adborth gan y grŵp adolygu, y pwyllgor craffu, ein trigolion, busnesau ac ymwelwyr.  
 
"Rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i dir cyffredin sy'n dderbyniol i'n cymunedau, ond mae hefyd yn opsiwn dichonadwy, cynaliadwy a fforddiadwy i'r cyngor ei gyflawni o fewn ein cyfyngiadau cyllidebol tyn. Mae'n amlwg bod angen i ni fynd yn ôl ychydig o gamau ac ailedrych ar yr argymhellion i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud y peth iawn."  
 
Roedd y grŵp adolygu trawsbleidiol a oedd yn wleidyddol gytbwys hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o gynghorau tref a busnesau lleol lle mae meysydd parcio wedi'u lleoli, ac fe'i harweiniwyd gan ymgynghorydd annibynnol, diduedd. 
 
Yn ogystal â thariffau parcio ceir, ystyriodd y grŵp adolygu'r ffordd orau o reoli holl feysydd parcio'r cyngor, nifer yr ymwelwyr â chanol y dref, effeithiau a manteision cynlluniau teithio llesol lleol, yr adnoddau sydd ar gael, anghenion y cymunedau lleol a Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy y cyngor.  Bydd gwaith yn parhau dros amser i fynd i'r afael â'r holl agweddau hyn gyda gweledigaeth i greu meysydd parcio cynaliadwy sy'n addas ar gyfer dyfodol Powys.    

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu