Toglo gwelededd dewislen symudol

Bydd pont newydd yn helpu i hybu niferoedd pysgod a lleihau'r perygl o lifogydd

Image of Senni bridge

7 Tachwedd 2024

Image of Senni bridge
Bydd gosod pont newydd dros Afon Senni ym Mhowys yn rhoi hwb i nifer y pysgod, lleihau'r perygl o lifogydd a gwella mynediad at ffyrdd i gymunedau lleol. 
 
Wrth gydweithio, mae swyddogion o Gyngor Sir Powys a phrosiect Pedair Afon am OES Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi disodli pont bibell wreiddiol y 1950au ger Heol Senni, De Powys, gyda phont ddur rhychwant clir newydd. 
 
Roedd yr hen bont yn cael ei chynnal gan gyfres o bibellau concrid ar wely'r afon a oedd yn blocio'n rheolaidd. Roedd hyn yn cyfyngu ar hynt pysgod sy'n mudo, yn lleihau ansawdd bioamrywiaeth yr afon ac yn cynyddu risg llifogydd yr afon. 
 
Mae'r bont newydd, a osodwyd yn gynharach eleni gan A.V Plant Cyf, wedi'i chynllunio fel bod modd galluogi'r broses bwysig o symud graean ar hyd gwely'r afon, gan adfer cynefin yr afon a chreu amgylchedd mwy naturiol i bysgod ac infertebratau fwydo a bridio'n llwyddiannus.  
 
Mae Afon Senni yn rhan o ACA Afon Wysg (Ardal Cadwraeth Arbennig) ac yn is-afon pwysig fel man claddu wyau eog yr Iwerydd. Fodd bynnag, mae problemau mynediad wedi arwain at lai o gyfleoedd i'r eog gladdu wyau yn nyfroedd yr afon. Mae gostyngiad diweddar mewn niferoedd eogiaid ar draws y dalgylch yn golygu, pan fydd eogiaid mewn llawn dwf yn cyrraedd yr isafonydd hyn, fod yn rhaid iddynt gael mynediad agored i ddŵr a graean glân i gladdu wyau, ac i'w ifanc ffynnu. O ganlyniad i osod y bont ddur rhychwant clir newydd, bydd tua thri chilomedr o afon i fyny'r afon bellach yn gwbl hygyrch i eog, brithyll a rhywogaethau pwysig eraill fridio.  
 
Mae 'peirianneg werdd' hefyd wedi cael ei defnyddio i sefydlogi glannau'r afon i fyny'r afon o'r bont. Mae gwreiddiau coed wedi eu gosod yn y banc i ddiogelu'r bont a lleihau erydiad. Gosodwyd boncyffion pedwar i bum metr o hyd a 50-60cm mewn diamedr yn llorweddol a'u cadw yn eu lle ymhellach gyda pholion castan dau fetr o hyd. Cafodd matio coir ei osod ar ben y boncyffion a'u hau â llystyfiant brodorol, a fydd yn rheoli erydiad ymhellach ac yn helpu i sefydlogi glannau'r afon yn y tymor hir. 
 
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Mae cydweithio gyda CNC ar y prosiect hwn wedi bod yn wych. Rydym wedi gallu trafod gwahanol elfennau drwy gydol y cam dichonoldeb a dylunio a datblygu a darparu ateb sy'n diwallu anghenion pawb yn effeithlon.  
 
"Yn ogystal â helpu amgylchedd a bioamrywiaeth yr afon a'r tir o'i hamgylch, bydd y gymuned leol hefyd yn elwa o'r bont newydd a fydd yn lleihau amlder llifogydd ar y ffordd sy'n peri iddi gael ei chau. Bydd strwythur y bont rhychwant clir newydd yn arwain at gostau cynnal a chadw is oherwydd na fydd rhaid clirio pibellau wedi blocio mwyach fel oedd angen ei wneud yn achlysurol gyda'r bont wreiddiol."
 
Dywedodd Susie Kinghan, Rheolwr Prosiect Pedair Afon am OES: "Mae pysgod yn rhan enfawr o fioamrywiaeth Cymru ac mae gwella eu cynefin a sicrhau bod poblogaethau'n gynaliadwy yn rhan hanfodol o'n gwaith. Eisoes yr haf hwn, rydym wedi dod o hyd i niferoedd da o eog ieuanc i fyny'r afon o'r bont newydd, sy'n newyddion cadarnhaol iawn. 
 
"Rydym yn gweithio gyda phartneriaid fel Cyngor Sir Powys i nodi rhwystrau tebyg i fudo pysgod a byddwn yn defnyddio'r cynllun hwn i ddangos sut y gall atebion cost isel fel hyn weithio gyda natur a bod o fudd i bobl ar yr un pryd." 
 
Gwyliwch fideo treigl amser CNC o'r gwaith ar y ddolen hon: Pedair Afon LIFE a Chyngor Sir Powys / Four Rivers for LIFE and Powys County Council

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu