Y Cymorth Cywir ar yr Adeg Gywir
7 Tachwedd 2024
Mae'r rhaglen wedi'i chydlynu gan CWMPAS a CYSUR, y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol, ac eleni mae wedi'i chynllunio mewn ymateb i rai o'r themâu a'r materion diogelu yr ydym yn gwybod sy'n effeithio ar blant ac oedolion sydd mewn perygl, a'u teuluoedd yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Bydd ymarferwyr sy'n gyfrifol am ddiogelu plant ac oedolion, gan gynnwys, gweithwyr cymdeithasol, swyddogion heddlu, nyrsys, ymwelwyr iechyd, bydwragedd, athrawon a gweithwyr ieuenctid yn ogystal ag aelodau o'r gymuned yn bresennol yn y digwyddiadau.
Un o'r uchafbwyntiau fydd cynhadledd i ymarferwyr amlasiantaethol, a gynhelir yn y Ganolfan Sgiliau, Prifysgol Aberystwyth ar 14 Tachwedd.
Bydd hyn yn cynnwys mewnbwn gan unigolion sydd â phrofiad bywyd o rai o'r materion sy'n cael eu hystyried a bydd yn hyrwyddo modelau gwaith adfer ar ôl trawma.
Bydd nifer o ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos ar gyfer staff sy'n gweithio yn y maes diogelu yn ogystal â'r gymuned.
Mae'r rhain yn cynnwys digwyddiadau a hwylusir gan elusennau adnabyddus gan gynnwys yr NSPCC a Chymdeithas y Plant yn ogystal â nifer o weminarau staff a fydd yn rhannu gwersi a ddysgwyd o adolygiadau ymarfer ledled Cymru a'r DU.
Mae'r ymgyrch Siarad PANTS er enghraifft, a hyrwyddir gan yr NSPCC, wedi'i hanelu at weithwyr addysg proffesiynol, athrawon ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar, i gael sgyrsiau syml sy'n briodol i'w hoedran, a all helpu i gadw plant yn ddiogel rhag cam-drin rhywiol.
Dywedodd Jake Morgan, Cadeirydd Bwrdd Diogelu Plant Canolbarth a Gorllewin Cymru: "Mae'n bleser gan Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru gynnal rhaglen lawn o ddigwyddiadau i ymarferwyr yn ystod Wythnos Genedlaethol Diogelu 2025.
"Mae'r digwyddiadau sydd bellach wedi hen ennill eu plwyf yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ac arfogi pob aelod o staff sydd â chyfrifoldeb dros ddiogelu er mwyn helpu i ddiogelu a chefnogi'r plant a'r oedolion mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau."
Gallwch ddilyn Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol - @CYSURCymru ar X (Twitter gynt), @CYSURCymru ar Facebook a @cysurcymru ar Instagram i gael diweddariadau a gwybodaeth am ddiogelu drwy gydol yr wythnos.