Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Dymchwel cyn ysgol yn barod i adeiladu cartrefi cyngor newydd

Image of a mechanical shovel with a pile of construction debris in the background

7 Tachwedd 2024

Image of a mechanical shovel with a pile of construction debris in the background
Mae cynlluniau cyffrous i adeiladu cartrefi cyngor newydd yng ngogledd Powys wedi cyrraedd carreg filltir bwysig wrth i waith i ddymchwel hen ysgol ddechrau, meddai'r cyngor sir.

Mae Cyngor Sir Powys yn goruchwylio'r gwaith o ddymchwel hen Ysgol Feithrin a  Babanod Yr Eglwys yng Nghymru Gungrog yn y Trallwng.

Mae'r gwaith dymchwel yn cael ei wneud fel rhan o ddatblygiad cyffrous a fydd yn gweld 16 o fyngalos newydd yn cael eu hadeiladu gan Dîm Datblygu Tai'r cyngor.

Mae Bond Demolition yn ymgymryd â'r gwaith ar ran y cyngor, a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Rhagfyr 2024.

Yn ystod y cyfnod dymchwel, bydd yr ardal yn safle prysur gyda cherbydau mawr sydd angen mynediad.  Mae'r cyngor yn gofyn i drigolion lleol gymryd gofal ychwanegol pan fyddant yn yr ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Rwy'n falch iawn bod ein cynlluniau i adeiladu cartrefi o ansawdd uchel, sy'n effeithlon o ran ynni i'w rhentu yn y Trallwng, yn cymryd cam pwysig ymlaen.

"Mae darparu cartrefi cyngor newydd yn y Trallwng yn ymrwymiad ariannol mawr gan y cyngor a fydd yn helpu i fynd i'r afael â thlodi, cefnogi'r economi leol a chreu cyfleoedd ar gyfer swyddi a hyfforddiant yn y gymuned.

"Mynd i'r afael â'r argyfwng tai ym Mhowys yw fy mhrif flaenoriaeth. Bydd y cynnig cyffrous hwn yn ein helpu i adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i'n cymunedau."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu