Prosiect gwerth £1m i wella amddiffynfeydd llifogydd ar gyfer 100 o gartrefi
8 Tachwedd 2024
Mae Cyngor Sir Powys wedi defnyddio'r arian o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU i:
- Brynu dau bwmp mawr i'w defnyddio yn Stryd y Bont a Ffordd Newydd, Crug Hywel, i helpu i ddiogelu 18 o gartrefi rhag llifogydd a achosir gan lefelau dŵr uchel Afon Wysg.
- Adeiladu bwnd a gwneud addasiadau draenio, mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru, ar hyd yr A470 yn Llandinam, i helpu i ddiogelu wyth cartref rhag llifogydd a achosir gan Afon Hafren yn torri ei glannau.
Bydd hefyd yn talu am osod mesurau atal unigol mewn tua 80 o gartrefi ym Mhowys sydd â risg uchel o lifogydd, gan gynnwys yn Nhrefyclo, Llandrinio, Four Crosses, y Trallwng, Caersŵs, Ystradgynlais a'r Gelli Gandryll.
Cafodd y gwaith ei gwblhau mewn tua hanner yr eiddo hyn, gyda'r gweddill i fod i gael ei orffen erbyn diwedd 2024.
Mae'r mesurau sy'n cael eu gosod ar gyfer y cyngor, gan y contractwr Lakeside Flood Solutions, yn cynnwys:
- Rhwystrau i ddiogelu drysau, y gellir eu datgymalu pan nad oes angen.
- Gorchuddion bric aer awtomatig.
- Falfiau arbennig ar gyfer draeniau, sinciau a chawodydd.
- Pympiau pyllau.
Mae Tony Thorn o Gaersŵs yn berchen ar un o'r cartrefi sydd wedi elwa. Mae'n agos at Afonydd Hafren, Trannon a Charno, ac wedi dioddef llifogydd tua dwy flynedd a hanner yn ôl gan achosi difrod helaeth.
Dywedodd Tony: "Rydym yn fodlon iawn ar y gwaith ac yn gobeithio y bydd y system yn gweithio'n dda.
"Mae'n ymddangos yn gadarn iawn ac yn addas i'r diben, sy'n beth dda, ac mae gennym bellach amddiffynfeydd rhag llifogydd wrth bob drws o amgylch y tŷ, ac maen nhw wedi rhoi system atal llifogydd enfawr ar draws yr heulfan yn y cefn. Ar yr amod ein bod yn cael digon o rybudd; byddwn yn gallu rhoi'r holl amddiffynfeydd ar waith a bod yn ddiogel."
Mae'r cynllun wedi'i reoli gan Wasanaeth Priffyrdd Cyngor Sir Powys gan dargedu eiddo y nodwyd ei fod mewn perygl gan ei Dîm Cynllunio Mewn Argyfwng.
"Yn dilyn stormydd Ciara, Dennis a Jorge ym mis Chwefror 2020, cafodd rhannau o Bowys y glaw uchaf erioed, a chafodd llawer o gartrefi lifogydd," meddai'r Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar Gyfer Powys Fwy Diogel. "Gwnaeth stormydd eraill fel Babet yn 2023 hefyd achosi llifogydd helaeth yn y sir.
"Fe wnaethon gydnabod yr effaith enfawr y mae llifogydd yn ei chael ar fywydau pobl, felly, gwnaethon ni gyflwyno'r cais hwn am gyllid gan Lywodraeth y DU, ar gyfer gwaith a fydd, gobeithio, yn lleihau difrifoldeb unrhyw ddifrod yn y dyfodol."
Ychwanegodd y Cyng Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Gyda phryder cynyddol am effeithiau newid hinsawdd a'r posibilrwydd o lifogydd amlach, bydd y prosiect hwn yn dod â tawelwch meddwl i lawer ym Mhowys y mae eu cartrefi wedi gorlifo o'r blaen."
Dyfarnwyd y cyllid i'r Gwasanaeth Priffyrdd gan Fwrdd Partneriaeth Lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys, sy'n cael ei gefnogi gan Wasanaeth Economi a Hinsawdd y cyngor.
Cafodd JBA Consulting ei logi i gynnal asesiadau ac arolygon o'r cartrefi ym Mhowys a nodwyd fel rhai sydd â'r risg fwyaf o ddioddef llifogydd.
Cyngor ar ddelio â llifogydd: Llifogydd
LLUN: Tony Thorn gydag un o'r amddiffynfeydd llifogydd a osodwyd i ddiogelu drysau ei gartref yng Nghaersŵs