Dweud eich dweud ar gynlluniau tai ar gyfer Llanfyllin
11 Tachwedd 2024
Mae'r cyngor yn bwriadu adeiladu 16 o gartrefi sydd wedi'u hinswleiddio'n dda ac sy'n eco-gyfeillgar ar dir gyferbyn â Maesydre.
Bydd y datblygiad arfaethedig yn cynnwys wyth fflat un ystafell wely, pedwar byngalo un ystafell wely, dau dŷ dwy ystafell wely a dau dŷ pedair ystafell wely.
Mae ymgynghoriad cyn ymgeisio bellach wedi dechrau ar gyfer y datblygiad arfaethedig, a fydd yn rhedeg tan ddydd Gwener, 6 Rhagfyr 2024 i ganiatáu i bartïon â diddordeb wneud sylwadau ar y cynlluniau cyn bod cais cynllunio yn cael ei gyflwyno.
Cynhelir arddangosfa gyhoeddus ddydd Iau, 28 Tachwedd rhwng 2 a 7pm yn Llyfrgell Llanfyllin lle bydd y cynigion yn cael eu harddangos a bydd aelodau o'r tîm dylunio ar gael i ateb unrhyw gwestiynau.
Os rhoddir caniatâd cynllunio, bydd y cartrefi newydd yn eiddo i'r cyngor ac yn cael eu rheoli ganddo. Bydd y tai'n cael eu dyrannu i denantiaid drwy 'Cartrefi ym Mhowys' - y siop un stop ar gyfer holl dai cymdeithasol y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Un o flaenoriaethau'r cyngor yw mynd i'r afael â'r argyfwng tai yn y sir a gellir cyflawni hyn drwy adeiladu tai cyngor o ansawdd uchel.
"Mae ein datblygiad arfaethedig yn Llanfyllin yn mynd i fod yn bwysig wrth i ni geisio cyflawni'r flaenoriaeth hon ac adeiladu dyfodol cryfach, tecach, gwyrddach i'r gymuned hon.
"Mae'r ymgynghoriad cyn ymgeisio yn bwysig gan ei fod yn rhoi cyfle i'r gymuned leol ddweud eu dweud ar y cynlluniau cyn i ni gyflwyno cais cynllunio."
Bydd yr ymgynghoriad cyn ymgeisio yn cau ddydd Gwener, 6 Rhagfyr 2024
I weld y dogfennau ymgynghori cyn ymgeisio ar-lein a chael gwybod sut y gallwch wneud sylwadau ar y cynlluniau arfaethedig, ewch i https://www.asbriplanning.co.uk/statutory-pre-application-consultation/